Ewch i’r prif gynnwys

Adrodd ar lesiant amserol ar gyfer adferiad ôl-COVID.

24 Mawrth 2021

kpbbnp

Adroddiad newydd yn nodi'r amgylchedd cadarnhaol y mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ei gynnig i'w gymuned leol ac yn nodi rhai o'r rhwystrau sy'n cyfyngu ar fynediad ato a defnydd ohono.

Mae 'Deall buddion iechyd a lles Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i gymuned gyfagos' yn adroddiad sy'n seiliedig ar Ferthyr Tudful a ysgrifennwyd gan Sara MacBride-Stewart a Joshua Headington ac mae'n cynnwys neges gan Christopher Coppock, Aelod o Awdurdod y Parc a Hyrwyddwr Cymunedau Gwydn.

Mae mynediad at yr awyr agored wastad wedi cael ei ystyried yn bwysig, ac yn rhan unigryw o hunaniaeth cymunedau cymoedd de Cymru. Mae'r adroddiad hwn o ymchwil gyda chymuned o breswylwyr ym Merthyr yn adlewyrchu ar sut mae pobl yn gwerthfawrogi'r Parc at ddibenion lles, a'u profiadau o gael eu gwahardd ohono.

Mae’r adroddiad yn nodi'r amgylchedd cadarnhaol y mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ei gynnig i'w gymuned leol ac yn nodi rhai o'r rhwystrau sy'n cyfyngu ar fynediad a defnydd. Wedi'i ariannu gan y Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy, Prifysgol Caerdydd, cynhaliwyd yr astudiaeth cyn pandemig COVID-19, a ohiriodd yr adroddiad - ond a gynyddodd ei berthnasedd.

Daeth yr ysbryd cymunedol ym Merthyr yn fyw trwy rannu syniadau a chael cyfleoedd i fynd i’w mannau agored. Bellach, heb amheuaeth, mae gwerth yr awyr agored wedi dod yn rhan o drafodaethau cyhoeddus. Mae'n ymddangos yn amserol rhyddhau'r adroddiad hwn. Mae’r canfyddiadau wedi'u hategu gan ein profiadau o’r cyfnod clo, ac rydym yn ymwybodol bod lleoedd fel ein Parciau Cenedlaethol yn cael eu gwerthfawrogi, ond hefyd bod angen i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i’r afael â mynediad ac anghydraddoldeb ‘gwyrdd. ’ Meddai Dr Sara MacBride-Stewart, cyd-awdur yr adroddiad.

Mae'r adroddiad ar gael ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chanolfan Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy, Prifysgol Caerdydd.

Deall Buddion Iechyd a Lles Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i Gymuned Gyfagos

Mae'r adroddiad hwn o ymchwil gyda chymuned o breswylwyr ym Merthyr yn adlewyrchu ar sut mae pobl yn gwerthfawrogi'r Parc at ddibenion lles, a'u profiadau o gael eu gwahardd ohono.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn yma neu ewch i'n tudalennau Partneriaeth i gael mwy o fanylion am ein gwaith ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Rhannu’r stori hon