Ewch i’r prif gynnwys

Aelodau'r ysgol yn ymuno â rhaglen Dad-ddysgu Hiliaeth mewn Geowyddorau

1 Mawrth 2021

Unlearning Racism in Geoscience

Mae staff a myfyrwyr o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd wedi ymuno â chwrs addysg a hyfforddiant newydd o'r enw Dad-ddysgu Hiliaeth mewn Geowyddorau (URGE).

Nod y rhaglen a gefnogir gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol yw hwyluso gwaith gwrth-hiliaeth mewn adrannau geowyddorau ledled y wlad i wella hygyrchedd, cyfiawnder, tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae'r newidiadau hyn wedi'u hysbrydoli gan y gydnabyddiaeth bod yr hiliaeth a'r anghyfiawnderau sy'n effeithio ar gymdeithas yn cael eu hadlewyrchu a’u parhau yn y byd academaidd, yn enwedig mewn geowyddorau, sydd ymhlith y meysydd STEM lleiaf amrywiol.

Prif amcanion URGE yw:

  • Dyfnhau dealltwriaeth y gymuned o effaith hiliaeth ar gyfranogiad pobl Ddu, Brown a Brodorol yn y Geowyddorau a'u cadw yn y maes.
  • Tynnu ar lenyddiaeth bresennol, barn arbenigol, a phrofiadau personol i ddatblygu polisïau a strategaethau gwrth-hiliol.
  • Rhannu, trafod ac addasu polisïau a strategaethau gwrth-hiliol o fewn rhwydwaith gymunedol ddeinamig ac ar lwyfan cenedlaethol.

Mae pod URGE Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd yn cynnwys 19 aelod, gan gynnwys myfyrwyr a staff.

Mae'r cwrs yn cynnwys wyth sesiwn sy’n bythefnos o hyd - pob sesiwn yn cynnwys 1-2 erthygl o gyfnodolion ar hiliaeth a chyfweliad ag arbenigwr. Bydd y pod yn cynnal cyfarfodydd yn ystod y misoedd nesaf gyda'r nod o ddiweddaru'r Ysgol ar eu trafodaethau, eu canfyddiadau a'u hargymhellion.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn cwricwlwm URGE? Mae'r darlleniadau a'r fideos ar gael yn: https://urgeoscience.org/curriculum/

Rhannu’r stori hon