Ewch i’r prif gynnwys

Rhai technegau defnyddiol i'w hystyried wrth chwilio am astudiaethau ymchwil ym maes Gofal Cymdeithasol Plant: Cyhoeddiad newydd gan SURE

21 Ionawr 2021

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd What Works for Children’s Social Care ei adroddiad diweddaraf. Mae'r adroddiad yn crynhoi canfyddiadau astudiaeth o bum techneg i arwain y rhai sy'n chwilio am astudiaethau ymchwil sy'n berthnasol i ofal cymdeithasol plant.

Cynhaliwyd yr ymchwil o fewn SURE mewn cydweithrediad â’r Ganolfan EPPI yng Ngholeg Prifysgol Llundain.  Rydym wedi darganfod y bydd angen i chwilwyr ymchwil cyhoeddedig yn y maes trawsddisgyblaethol hwn o ofal cymdeithasol plant ddefnyddio amrywiaeth o dermau chwilio a ffynonellau gwybodaeth, gan gynnwys gwefannau, i nodi'r cyfoeth o ymchwil perthnasol sydd ar gael.  Darperir canllawiau ymarferol ar dechnegau chwilio a allai fod o gymorth i adnabod astudiaethau, gan gynnwys rhai cronfeydd data a gwefannau defnyddiol y gellir eu cyrchu am ddim, yn yr adroddiad.

Mae staff SURE wedi bod yn gweithio'n agos gyda CASCADE ar gyfres o adolygiadau cwmpasu, adolygiadau systematig ac adroddiadau arbenigol sy'n canolbwyntio ar leihau'n ddiogel yr angen i blant fynd i mewn i ofal.

Gellir dod o hyd i'r holl adroddiadau hyn yn What Works for Children’s Social Care Evidence Store.

Darllenwch yr adroddiad llawn Searching for research studies in children’s social care: some techniques and tools.

Dysgwch fwy amyr holl adroddiadau hat Works for Children’s Social Care.

Rhannu’r stori hon