Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Mynydd

12 Ionawr 2021

Hindu Kush Region

Codi Ymwybyddiaeth o’r Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer mwy o weithredu yn Rhanbarth Hindukush- Himalaia

Mae newid yn yr hinsawdd yn cael effaith ddinistriol ar ranbarth Hindu Kush Himalaia (HKH), sy’n rhychwantu Afghanistan, Bangladesh, Bhutan, Tsieina, India, Myanmar, Nepal a Phacistan. Mae'r tymheredd ar gyfartaledd wedi cynyddu oddeutu. 2.9°C dros y ganrif ddiwethaf. Yn ôl Adroddiad Asesu HKH gan ICIMOD, hyd yn oed os yw allyriadau carbon yn gyfyngedig i 1.5C, bydd 36% o rewlifoedd yn y rhanbarth wedi diflannu erbyn 2100. Hefyd os nad yw'r tymheredd yn gyfyngedig i 2C yn uwch na'r lefelau cyn-ddiwydiannol, bydd dwy ran o dair o màs iâ'r rhanbarth yn cael ei golli o fewn y ganrif hon.

Er mwyn codi ymwybyddiaeth o newid yn yr hinsawdd a hyrwyddo'r angen am fwy o gamau yn Rhanbarth Hindu Kush Himalaia, trefnwyd gweminar gan Dr Abid Mehmood, Uwch-gymrawd Ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy. I gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol y Mynydd, nod y gweminar oedd ymgysylltu ag arbenigwyr polisi, cymdeithas sifil, y byd academaidd a'r cyfryngau. Y bwriad oedd nodi'r cyfleoedd a'r heriau ar gyfer mwy o weithredu rhag y newid yn yr hinsawdd yn y rhanbarth, tynnu sylw at ganlyniadau diffyg gweithredu, a thrafod y dyfodol.

Mae'r sefyllfa yn peri bygythiadau difrifol i'r cymunedau mynyddig ym Mhacistan, sydd ymhlith y gwledydd sy'n profi’r gyfradd doddi rewlifol gyflymaf, sef 2.3% y flwyddyn. Mae’r rhewlifoedd yn toddi'n gyflym ac yn cael eu gwaethygu gan lygryddion fel carbon du, microplastigau ac aerosolau. Mae'r rhain yn effeithio ar yr ecoleg a’r amgylchedd lleol ac yn dod â risgiau cynyddol o Rewlifeiriannau (Glacial Lake Outburst Floods) gan arwain at golli bywydau a bywoliaethau. Mae hyn yn galw am weithredu ar unwaith nid yn unig i addasu a lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ond hefyd i godi ymwybyddiaeth ohono sy'n allweddol i gymryd camau er budd yr hinsawdd.

Cefnogir y prosiect gan grant Cyflymu Effaith HEFCW-GCRF ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon