Ewch i’r prif gynnwys

Wilkommen Denise

16 Rhagfyr 2020

Willkommen to Denise
Willkommen to Denise

Hoffem estyn croeso cynnes iawn i Denise Micic sydd wedi ymuno â'n tîm addysgu iaith Almaeneg.

Mae Denise yn dod â chyfoeth o brofiad a brwdfrydedd ac mae'n awyddus i gwrdd â'n myfyrwyr.

Daw Denise yn wreiddiol o Freiburg, sy'n dref hardd wedi'i lleoli yn Ne'r Almaen, yn agos iawn at y ffin â'r Swistir a Ffrainc. Symudodd i'r DU yn 2010 ar ôl treulio peth amser yng Nghaerdydd fel rhan o'i gradd israddedig.

Ar ôl i Denise symud yn barhaol i Gaerdydd, cwblhaodd ei chwrs TAR yn ogystal â gradd MA mewn Addysg ac yna rhwng 2011 a 2019 bu’n gweithio fel Pennaeth Ieithoedd Tramor Modern mewn Ysgol Uwchradd brif ffrwd ar gyrion Bryste - swydd a fwynhaodd yn fawr.

Yn ddiweddar, dechreuodd Denise ddysgu ym Mhrifysgol Caerdydd o fewn y rhaglen Ieithoedd i Bawb ym mis Chwefror 2020 a dywedodd:

“Rwy’n hynod gyffrous i fod yn rhan o’r tîm yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac Addysg Barhaus a Phroffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd ac rwy’n edrych ymlaen at flynyddoedd lawer o addysgu Almaeneg yma.”

Os hoffech chi gofrestru ar gwrs Almaeneg y gwanwyn hwn, mae'r holl fanylion i'w gweld yma

Rhannu’r stori hon