Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan y Gyfraith a Chrefydd yn penodi Cyfarwyddwr Cynorthwyol newydd

8 Rhagfyr 2020

Mae'n bleser gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth gyhoeddi penodiad y Parchedig Stephen Coleman yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Canolfan y Gyfraith a Chrefydd.

Mae Stephen yn Athro'r Gyfraith yn yr Ysgol ac mae'n darllen ar gyfer PhD mewn Hanes Cyfreithiol Eglwysig, yn ogystal â bod yn Ficer St Peter's, Grange Park, plwyf Eglwys Lloegr yng Ngogledd Llundain. Graddiodd mewn diwinyddiaeth o Brifysgol Rhydychen. Gweithiodd Stephen fel cyfreithiwr yn Ninas Llundain cyn hyfforddi ar gyfer ei ordeinio yng Nghaergrawnt. Graddiodd o LLM Caerdydd mewn Cyfraith Eglwysig yn 2016. Mae'n un o ymddiriedolwyr Cymdeithas y Gyfraith Eglwysig, yn aelod o Fwrdd Golygyddol yr Ecclesiastical Law Journal, ac yn addysgu Cyfraith Eglwysig yn Esgobaeth Llundain.

Sefydlwyd Canolfan y Gyfraith a Chrefydd ym 1998 gan ei Chyfarwyddwr, yr Athro Norman Doe, i hyrwyddo ymchwil yn theori ac ymarfer cyfraith sylwedd sy'n ymwneud â chrefydd. Bydd Stephen yn cynorthwyo'r Athro Doe i arwain a datblygu'r Ganolfan yn gyffredinol, a bydd yn cynnull Colocwiwm Cyfreithwyr Eglwysig Anglicanaidd a Chatholig a Rhwydwaith Hanes Cyfreithiol Cyfraith yr Eglwys.

Dywedodd yr Athro Norman Doe, “Dros y blynyddoedd, mae Canolfan y Gyfraith a Chrefydd wedi bod yn gymuned fywiog o ysgolheigion hynod dalentog ac ymroddedig sy’n ymwneud â gwaith arloesol yn nhirwedd cyfraith a chrefydd sy’n newid yn gyflym.  Mae penodi Stephen Coleman yn nodi cam pwysig yn natblygiad y Ganolfan. Rwy’n ddiolchgar i Stephen am ymgymryd â’r rôl hon a dod â chyfoeth o greadigrwydd, egni a phroffesiynoldeb iddi.”

Dywedodd Stephen Coleman, “Mae materion yn y gyfraith a chrefydd yn sylfaenol i’n ffordd o fyw; maent yn ffurfio bywydau unigolion preifat a chymunedau ffydd ac yn cael effaith sylweddol ar sut mae cymdeithas gyfan yn cael ei threfnu. Rwy’n gyffrous fy mod yn gweithio gyda’r Athro Doe a chymrodyr y Ganolfan ar gam nesaf datblygiad y Ganolfan er mwyn iddi barhau i fod yn sefydliad blaenllaw ym maes y Gyfraith a Chrefydd yn y DU ac ar draws y byd.”

Rhannu’r stori hon