Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu gwerth y Dyniaethau yng Ngŵyl yr Wythnos Ddarllen

10 Tachwedd 2020

Gall myfyrwyr ymchwilio i yrfaoedd a sgiliau, ehangu gorwelion diwylliannol a rhoi cynnig ar rywbeth newydd ar y campws ac ar-lein

Mae Gŵyl yr Wythnos Ddarllen arbennig yn cael ei chynnal yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ar gyfer wythnos ddarllen y semester hwn.

Wedi'i chreu ar gyfer myfyrwyr yn ystod y flwyddyn hon o bandemig, bydd Gŵyl yr Wythnos Ddarllen yn cael ei chynnal dros bum diwrnod gydag ystod eang o weithgareddau dewisol gyda staff o lawer o arbenigeddau, gan gynnwys sesiynau gyrfa gan arbenigwyr Gyrfaoedd y Brifysgol.

Bydd israddedigion a myfyrwyr ôl-raddedig yr Ysgol yn gallu dewis o ystod o weithgareddau ar-lein megis dangosiadau ffilm a digwyddiadau diogel gyda phellter cymdeithasol ar y campws, yn ogystal â theithiau cerdded awyr agored ar thema lles, gan fanteisio i'r eithaf ar y mannau gwyrdd yn ein prifddinas.

Mae ystod eang o sesiynau o weithio'n llawrydd a pharatoi ar gyfer cyfweliadau i ysgrifennu creadigol i ofalu amdanoch chi eich hun gan staff arobryn a myfyrwyr, a bydd tair thema, gyda'r nod o helpu gyda datblygu gyrfa a sgiliau, ehangu gorwelion celfyddydol a diwylliannol a gwella lles gyda chyfleoedd i roi cynnig ar rywbeth newydd.

Eglura trefnwyr o lawer o ddisgyblaethau'r Ysgol gan gynnwys Ysgrifennu Creadigol, Llenyddiaeth Saesneg, Iaith ac Athroniaeth:

"Y nod yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gymdeithasu ag eraill o'r ysgol ac ymgysylltu â phynciau astudio mewn ffyrdd gwahanol. Yn fwy na dim, gyda lwc bydd yr ŵyl yn cyfleu gwerth y dyniaethau yn y byd ehangach."

Gallwch gadw lle ymlaen llaw ar Dysgu Canolog. Cynhelir Gŵyl yr Wythnos Ddarllen o ddydd Llun i ddydd Gwener, 16 - 20 Tachwedd.

Rhannu’r stori hon