Dadansoddiad o lwybrau teithio llesol i ysgolion
2 Tachwedd 2020
Comisiynwyd Prifysgolion Caerdydd a Leeds ar y cyd, mewn ymgais dan arweiniad Sustrans, yr elusen trafnidiaeth gynaliadwy, i dreialu dulliau newydd o fodelu llwybrau cerdded a seiclo i ysgolion.
Mae ymarfer corff rheolaidd yn bwysig o oedran cynnar i hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol da, ac mae’r daith i’r ysgol yn gyfle pwysig i sefydlu’r ymddygiad hwn. Fodd bynnag, mae’r gyfran o blant sy’n cerdded ac yn seiclo i’r ysgol yn lleihau bob blwyddyn.
Nod prosiect newydd a ariennir gan Gyngor Sir Fynwy yw annog mwy o blant i deithio’n gorfforol i’r ysgol – yn enwedig drwy wella seilwaith yng Nghas-gwent a’r Fenni, ac o’u cwmpas yn ne Cymru.
Gan weithio gyda Sustrans a Sefydliad Astudiaethau Trafnidiaeth Prifysgol Leeds, bydd ymchwilwyr yn Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn cyfuno dulliau blaengar o’r ddau sefydliad i gynllunio rhwydweithiau seiclo newydd yn yr ardal.
- Meddalwedd dadansoddi rhwydwaith gofodol sDNA, a ddatblygwyd yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, Caerdydd, ac a ddefnyddir gan ymgynghorwyr i gynllunio nifer o rwydweithiau cerdded a beicio ledled y byd.
- Yr Adnodd Propensity to Cycle Tool, a ddatblygwyd gan Dr Robin Lovelace yn Sefydliad Astudiaethau Trafnidiaeth Prifysgol Leeds, a gomisiynwyd ac a argymhellwyd gan Adran Drafnidiaeth y DU i nodi cyfleoedd i gynyddu teithio llesol
Bydd y modelau canlynol yn agored eu ffynhonnell, ac ar gael ar-lein i’r cyhoedd, gyda Sustrans yn archwilio llwybrau ac yn rhoi argymhellion.