Ewch i’r prif gynnwys

BookTalk Caerdydd yn mynd yn fyd-eang ar gyfer ei ben-blwydd yn 10 oed

15 Hydref 2020

Clwb llyfrau yn mentro i dir rhithwir ar gyfer ei ddegfed tymor

Mae’r clwb llyfrau poblogaidd a gwahanol hwn yn mynd i gyfeiriad newydd ar gyfer ei ddegfed pen-blwydd drwy wahodd darllenwyr o bedwar ban byd i drin a thrafod byd ffuglen o ddiogelwch eu cartrefi.

Gan ddilyn y patrwm arferol o arbenigwyr yn rhannu eu dealltwriaeth o ffuglen o safon, caiff y gyfres ei chynnal yn rhithwir gan ddod â siaradwyr o’r DU a thramor i ddarllenwyr unrhyw le yn y byd.

Bydd y degfed tymor yn agor gyda nofel ddirgelwch Americanaidd wych Shirley Jackson, We Have Always Lived in the Castle, ar 12 Tachwedd. Bydd Shelley Ingram (Prifysgol Louisiana, UDA) a Joan Passey (Prifysgol Bryste) wrth law i rannu eu harbenigedd ochr yn ochr â Robert Lloyd o Gaerdydd.

Yn dilyn llwyddiant y ffilm yn 2020 a gynhyrchwyd gan Autumn de Wilde, penderfynodd y trefnwyr mai’r glasur Emma, gan Jane Austen fyddai’r llyfr nesaf i’w ailgyflwyno.Stori Austen am Miss Emma Woodhouse, ‘hardd, ddeallus a chyfoethog’ fydd o dan sylw ym mis Rhagfyr, a bydd yr arbenigwyr Gillian Dow (Prifysgol Southampton) a Mariam Wassif (Prifysgol Paris 1 Pantheon-Sorbonne) yn ymuno ag Anthony Mandal (Caerdydd).

Mae BookTalks ar gyfer 2021 yn cynnwys Kindred gan Octavia Butler, Passages gan Ann Quin, The Mirror and the Light gan Hilary Mantel, To the Lighthouse gan Virginia Woolf, ynghyd â gwaith newydd gan ysgrifenwyr o Gaerdydd: The Blue Tent gan Richard Gwyn ac Your Still Beating Heart gan Tyler Keevil.

Dywedodd trefnydd BookTalk Caerdydd, Dr Anna Mercer, awdur The Collaborative Literary Relationship of Percy Bysshe Shelley and Mary Wollstonecraft Shelley a gyhoeddwyd y llynedd:

‘Rydw i’n bersonol wrth fy modd gyda BookTalk, felly pleser o’r mwyaf yw trefnu’r rhaglen eleni. Mae mor bwysig ein bod yn gallu parhau i gynnig rhaglen o ddigwyddiadau y tymor hwn a rhoi ymdeimlad o gymuned. Gyda lwc, bydd y pynciau sydd gennym mewn golwg wrth fodd y rhai sy’n gyfarwydd iawn â BookTalk, yn ogystal ag aelodau newydd. Hoffwn ddiolch i dîm BookTalk am eu cefnogaeth, yn ogystal â chynulleidfa BookTalk fydd yn siŵr o wneud y trafodaethau mor fywiog a diddorol – fe’ch gwelwn i gyd (yn rhithiol) cyn bo hir!’

Yn ystod degawd o drafod, mae BookTalk Caerdydd wedi rhoi’r sylw ar ystod eclectig o lenyddiaeth, yn amrywio o ffuglen wyddonol a chlasuron cwlt modern i nofelau gothig Fictoraidd a gwaith Rhamantaidd enwog.

Mae’r awduron o dan sylw wedi cynnwys Gaynor Arnold, JG Ballard, Julian Barnes, John Harding, Khaled Hosseini, Sheridan Le Fanu, Cormac McCarthy, Simon Mawer, Toni Morrison, Mary Shelley, Virginia Woolf ac Emile Zola .

Cafodd grŵp llyfrau gwahanol y Brifysgol ei sefydlu yn 2011, ac mae’n rhoi sylw i waith gwych ac yn cynnig safbwyntiau arbenigol ar ffuglen glasurol a chyfoes yn uniongyrchol o ddarllenwyr.

Mae Cardiff BookTalk yn rhad ac am ddim o hyd, a bydd yn parhau i gael ei gynnal am 7pm, gan alluogi darllenwyr i ymuno o’u cartrefi unrhyw le yn y byd.

Mae cofrestru ymlaen llaw yn hanfodol. Dilynwch BookTalk Caerdydd ar Twitter neuFacebook i gael y newyddion diweddaraf.

Rhannu’r stori hon