Ewch i’r prif gynnwys

Your Still Beating Heart

10 Medi 2020

Lansio llyfr antur llawn cyffro gan awdur gwobrwyedig

Bellach mae Your Still Beating Heart, llyfr newydd y darlithydd Ysgrifennu Creadigol yng Nghaerdydd,  Tyler Keevil, wedi cyrraedd y silffoedd.

Mae'r nofel gyffrous, fentrus yn trafod beth sy'n digwydd pan fydd rhywbeth annisgwyl yn ystumio bywyd a'i droi ben i waered.

Yn sgil achos o drywanu ar hap ar fws yn Llundain caiff menyw ifanc ei gadael yn weddw a chaiff ei datgysylltu o'i byd blaenorol. Â'r dyfodol a ddylai fod yn eiddo iddi wedi ei gipio ymaith, heb feddwl mae'n trefnu taith i Prague - y ddinas y dyweddïodd hi a'i gŵr ynddi.

Ond yng nghanol gaeaf llwm, a hithau'n ynysig a dideimlad, dyw hi ddim yn gallu gwneud fawr mwy na chrwydro'r strydoedd coblog - tan iddi gael cynnig diddorol. Mae yna swydd i rywun yn union fel hi.  Y cyfan sydd angen iddi ei wneud yw nôl rhywbeth, a gyrru'n ôl. Unwaith yn unig.

Mae’r awdur a’r darlithydd a anwyd yng Nghanada wedi ennill Gwobr Barn y Bobl Lyfr y Flwyddyn Cymru ddwy waith am ei nofelau Fireball a The Drive. Yn dilyn y llwyddiant hwnnw, aeth â sioe lenyddol No Good Brother ar daith drwy'r DU y llynedd, ar y cyd a'i frawd, y cerddor a'r gwneuthurwr ffilmiau Jonathan Keevil.

Cyn hynny, enillodd Tyler Keevil Wobr Taith Ymddiriedolaeth Awduron Canada/McClelland a Stewart am Sealskin, o’i gasgliad cyntaf o ffuglen byr, Burrard Inlet.

Mae beirniaid ac awduron yn canmol y gyfrol newydd:

'Yr un mor gyfareddol ag yw o annifyr, mae'r nofel gyffrous fachog hon yn ein hatgoffa bod rhaid i ni adnabod marwolaeth er mwyn byw bywyd go iawn. Mewn colled rydym ni'n wynebu ein gwir natur, er nad ydyn efallai'n adnabod y person rydyn ni'n ei ddarganfod. Yn ei ryddiaith drydanol arferol, mae Keevil yn dwysau'r tensiwn. Fyddwch chi ddim yn gallu edrych i ffwrdd.'—Katherine Stansfield

'Mae Keevil yn ysgrifennu'n rhyfeddol o glir. Yn Your Still Beating Heart, mae'n cynnig cyfrol â phlot tyn fydd yn eich cymell i droi'r tudalennau, ac gyda’i arddull gryno, mae'n ein hatgoffa pa mor fregus yw ein bywydau a faint y dylem ni eu gwerthfawrogi. Cyfrol gyffrous, gyfareddol, emosiynol’. – Rebecca F. John

Cyhoeddir Your Still Beating Heart gan Tyler Keevil gan Myriad.

Tyler Keevil yw Cyfarwyddwr y Rhaglen Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol. Mae Prifysgol Caerdydd yn arloesi gydag addysgu Ysgrifennu Creadigol yn y DU ac yn cynnig graddau israddedig ac ôl-raddedig yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaet

Rhannu’r stori hon