Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Ymddiriedolaeth BRE ar gyfer Adeiladu Cynaliadwy yn cynnal eu cynhadledd rhithiol gyntaf.

9 Gorffennaf 2020

BRE Trust Centre for Sustainable Construction hosts first virtual conference.

Yn ddiweddar, cynhaliodd a threfnodd Canolfan Ymddiriedolaeth BRE ar gyfer Adeiladu Cynaliadwy gynhadledd ryngwladol ICE/IEEE ITM 2020, dan gadeiryddiaeth yr Athro Yacine Rezgui a Dr Thomas Beach.

Er bod pandemig COVID-19 wedi atal y gynhadledd rhag digwydd wyneb yn wyneb, cynhaliwyd y gynhadledd yn llwyddiannus dros y we, gyda 95 o ymchwilwyr yn cymryd rhan. Dyma’r tro cyntaf i Gynhadledd ICE/IEEE ITMC gael ei chynnal ar-lein, a dyma un o’r cynadleddau rhithiol cyntaf i gael eu cynnal gan Brifysgol Caerdydd.

Cyflwynwyd 75 papur academaidd o safon yn ystod y gynhadledd, a bydd y papurau hyn yn cael eu cyhoeddi gan IEEE.

Bydd cynhadledd 2021 yn cael ei chynnal unwaith eto gan Brifysgol Caerdydd, ond wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd y tro hwn.

Rhannu’r stori hon