Ewch i’r prif gynnwys

Mae'r Coronafeirws wedi dangos methiant Llywodraeth y DU i weithredu cynllun bwyd hirdymor

29 Mai 2020

Image of fresh fruit and vegetables at a market

Mae grŵp o arbenigwyr bwyd, gan gynnwys Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, yr Athro Terry Marsden, wedi rhybuddio bod angen cynllunio i ddelio ag argyfyngau byrdymor ac i fynd i'r afael â risgiau hirdymor i system fwyd y DU.

Mae'r Athro Marsden, yr Athro Tim Lang o Brifysgol Dinas Llundain, a'r Athro Erik Millstone o Brifysgol Sussex wedi ysgrifennu darn barn yn dadlau bod problemau mawr i system fwyd y DU wedi'u gwaethygu gan y coronafeirws.

Dywed yr awduron fod pandemig y coronafeirws wedi dangos yn gyflym, hyd yn oed ar ôl y bygythiad o Brexit heb gytundeb, nad oedd cynllun bwyd ffurfiol ar gael yn y DU heblaw am gred y llywodraeth y bydd manwerthwyr mawr "yn sortio'r broblem".

Yn ôl yr awduron, nid yw polisïau a chynlluniau bwyd wedi rhedeg ochr yn ochr yn o ran polisi a thrafodaethau gwleidyddol, ac mae llawer o'r bobl bwysig yn dal o'r farn bod bwyd yn cael ei ddarparu'n well drwy'r farchnad yn hytrach na’i fod yn “nwydd cyhoeddus”. Fodd bynnag, maent yn dadlau bod yr argyfwng presennol wedi gwaethygu'r problemau sy'n deillio o'r tybiaethau hyn.

Noda'r arbenigwyr fod sefyllfa de facto wedi codi, sy'n canolbwyntio ar rym presennol y farchnad yn hytrach na theilwra'r cyflenwad i ateb galw cyhoeddus, a bod angen cynllun bwyd cynhwysfawr ar unwaith. Nes bydd brechlyn, bydd bygythiad y feirws yn dominyddu bywydau ac economïau; fodd bynnag, bydd yr angen am gyflenwad bwyd sefydlog a bwyd iachus yn parhau'n gyson.

Byddai system fwyd wirioneddol wydn yn lleihau, ac nid cynyddu, crynhoad y farchnad; byddai'n rhoi iechyd a chydraddoldeb wrth galon cyflenwadau bwyd dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod; ac yn cyflymu'r datblygiad o gynllun bwyd yr ydym wedi bod yn galw amdano ers tro.

Darllenwch y darn barn llawn ar dudalennau blog Lleoedd Cynaliadwy.

Rhannu’r stori hon