Ewch i’r prif gynnwys

Dyfarnwyd statws Ystafell Ddosbarth Confucius i Ysgol Sili

29 Mai 2020

Mae'n bleser gennym gyhoeddi y dyfarnwyd statws Ystafell Ddosbarth Confucius i Ysgol Gynradd Sili yn ddiweddar.

Mae Sili wedi bod yn weithgar iawn yn hyrwyddo diwylliant Mandarin a Tsieinëeg ers iddi ddechrau gweithio gyda ni yn 2014, felly mae hwn yn gyfle gwych i ddisgyblion barhau i ddysgu hyd yn oed yn fwy!

Dywedodd athrawes Melissa Parry: “Rydym mor gyffrous a balch i fod wedi cael y statws Ystafell Ddosbarth Confucius. Rydym wrth ein bodd yn dysgu popeth am fywyd yn Tsieina ac rydym yn edrych am gyfleoedd drwy gydol y flwyddyn i brofi diwylliant ac iaith Tsieina."

Ers dysgu am ddiwylliant ac iaith Tsieina mae ein disgyblion yn fwy agored eu meddwl a chwilfrydig am y byd. Mae mor bwysig bod ein dysgwyr yn gwerthfawrogi diwylliannau eraill a dathlu amrywiaeth. Bydd dod yn Ystafell Ddosbarth Confucuis yn ein helpu i barhau ar ein taith i ddod yn ddinasyddion byd-eang cyfrifol.”

Agorodd Ysgol Gynradd Sili ei drysau yn 1912 i blant o bentref Sili ym Mro Morgannwg. Ers y diwrnod hwnnw, mae’r ysgol wedi ehangu yn unol ag anghenion y gymuned. Mae ei statws newydd yn golygu ei bod yr 18eg ystafell ddosbarth Confucius yng Nghymru, a’r seithfed i gael ei rheoli gan Gaerdydd.

Llongyfarchiadau Ysgol Gynradd Sili!

Rhannu’r stori hon