Ymchwilio i allu trawsnewidiol arferion llunio mannau
26 Mai 2020

Mae Erthygl Nodwedd SUSPLACE 'Ymchwilio i allu trawsnewidiol arferion llunio mannau' wedi'i chyhoeddi gyda mynediad agored yn Sustainability Sciences.
Mae'n cynnwys naw erthygl: wyth o erthyglau ymchwil gwreiddiol ac erthygl gyflwyno gan Lummina Horlings, Dirk Roep, Erik Mathijs a Terry Marsden. Mae'r wyth papur yn yr Erthygl Nodwedd hwn yn deillio o raglen gydweithredol SUSPLACE a ariennir gan yr UE, oedd â'r nod o ymchwilio i allu trawsnewidiol arferion llunio mannau cynaliadwy, ac os a sut mae'r arferion hyn yn cefnogi datblygiad cynaliadwy sy'n seiliedig ar leoedd.
Ar ôl dod â chwech o brifysgolion a saith o bartneriaid nad ydynt yn academaidd mewn saith o wledydd Ewrop ynghyd, roedd y rhaglen SUSPLACE yn cynnwys 15 o brosiectau ymchwil oedd yn ymchwilio i ystod eang o arferion llunio mannau mewn lleoliadau penodol. O fframwaith cyffredin ar lunio mannau cynaliadwy, mae bob prosiect ymchwil wedi datblygu ei ddull damcaniaethol a methodolegol ei hun.
Mae'r rhaglen ymchwil wedi rhoi trosolwg i arferion trawsnewidiol ymarferwyr a llunwyr polisïau sydd ynghlwm wrth greu lleoliadau cynaliadwy, yn ogystal â rôl drawsnewidiol ymchwilwyr.