Ewch i’r prif gynnwys

Athro'r Gyfraith yn siarad yn nigwyddiad Dydd Gŵyl Dewi’r Senedd

20 Mawrth 2020

Fis Mawrth hwn, gwahoddwyd yr Athro Norman Doe, i siarad mewn digwyddiad i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn y Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyflwynodd yr Athro Doe sgwrs o’r enw Canrif o Weinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru yn ystod derbyniad rhyngwladol a gynhaliwyd ar 4 Mawrth cyn Brecwast Gweddi Gŵyl Ddewi’r Senedd ar 5 Mawrth.

Roedd y ddarlith yn nodi dadsefydlu Eglwys Loegr yng Nghymru a sylfeini’r Eglwys yng Nghymru ym 1920. Bu’r Athro Doe yn trin a thrafod sut mae'r Eglwys yng Nghymru wedi esblygu ei lle yng Nghymru dros y ganrif, a'r hyn y gallem ei ddathlu ac, yn yr un modd, ei resynu.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Darren Millar AC, ac roedd y siaradwyr eraill yn cynnwys Eluned Morgan AC, Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, a John Davies, Archesgob Cymru.

Yn y derbyniad, rhoddodd yr Athro Doe gopi o'r llyfr a olygodd, A New History of the Church in Wales (Caergrawnt, 2020) i gynrychiolydd o Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Rhannu’r stori hon