Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Gydweithio Sefydliad Iechyd y Byd (WHOCC) Prifysgol Caerdydd yn lansio Dull Asesu Bydwreigiaeth Ar Gyfer Addysg (MATE) Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Bydwragedd

5 Mai 2020

Baby feet

Mae Canolfan Gydweithio Sefydliad Iechyd y Byd (WHOCC) ar gyfer Datblygu Bydwreigiaeth sydd wedi'i lleoli yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd, wedi lansio Dull Asesu Bydwreigiaeth Ar Gyfer Addysg (MATE) WHO.

Mae MATE yn darparu arweiniad, yn seiliedig ar dystiolaeth, i wledydd sydd am ddatblygu a chryfhau eu haddysg a pholisïau bydwreigiaeth. Mae hefyd yn cynnig adnodd hunanasesu i ysgogi a llywio trafodaethau mewn gwledydd yn ystod cyfnodau cynnar o gynllunio.

Mae'r adnodd yn gofyn i fydwragedd, arweinwyr, addysgwyr a menywod sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth ystyried y canlynol;

  • ble maent yn sefyll o ran addysg bydwreigiaeth
  • lle hoffen nhw fod yn y dyfodol
  • pa gamau gweithredu y byddai angen iddynt eu cymryd er mwyn gwireddu'r uchelgais hwnnw.

Cafwyd y syniad am MATE yn ystod ymweliad WHOCC Prifysgol Caerdydd ag Uzbekistan yn ystod 2015.

Yn Ewrop, mae bydwreigiaeth o ran paratoi addysgol, rheoleiddio proffesiynol, a chwmpas yr ymarfer yn amrywio'n fawr. Mae cryn dipyn o gyfleoedd i fanteisio ar addysg bydwreigiaeth o ansawdd uchel, yn enwedig yn Nwyrain Ewrop ac rydym yn gobeithio y bydd MATE yn adnodd defnyddio i lawer o Aelod-wladwriaethau.

Wrth siarad am ei lansiad, dywedodd yr Athro Billie Hunter, Cyfarwyddwr WHOCC Prifysgol Caerdydd;

“Rwyf wrth fy modd yn gweld MATE yn cael ei gyhoeddi ar ôl holl waith caled pawb dros y pedair blynedd ddiwethaf. Mae llawer o bobl wedi cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a phrofi MATE ledled Ewrop gan gynnwys myfyrwyr bydwreigiaeth, addysgwyr bydwreigiaeth, mamau, nyrsys, cynrychiolwyr o gymdeithasau proffesiynol a llunwyr polisïau. Hoffwn ddiolch o galon i bob un ohonynt".

Hefyd, nododd Dirprwy Gyfarwyddwr WHOCC, Grace Thomas;

“Mae lansio MATE yn gyffrous. Rydym bellach yn cydweithio â WHO Ewrop ar ein cynllun gwaith ar gyfer y pedair blynedd nesaf sy'n cynnwys cefnogi gwlad i ddefnyddio MATE wrth ddatblygu addysg bydwreigiaeth. Mae'r dystiolaeth yn glir y gall gofal bydwreigiaeth o ansawdd uchel atal menywod a babanod rhag marw, felly mae'r gwaith hwn yn hanfodol".

Mae Canolfan Gydweithio Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer Bydwreigiaeth, ym Mhrifysgol Caerdydd, yn un o dim ond dwy o ganolfannau o'r fath y byd - mae'r llall yn Chile, De America. Cafodd Prifysgol Caerdydd ei dynodi'n Ganolfan Gydweithio WHO yn 2016, ac mae wedi bod yn arwain yn weithredol ac yn cefnogi prosiectau bydwreigiaeth yn ardal Ewrop WHO ers hynny.