Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr yn y flwyddyn gyntaf yn cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth Meddwl Cyfreithiol

29 Ebrill 2020

Tamar Knight

Mae myfyriwr o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi gwneud yn well na chystadleuwyr o bob rhan o'r wlad wrth gyrraedd y rownd derfynol mewn cystadleuaeth gyfreithiol.

Daeth myfyriwr y gyfraith yn ei blwyddyn gyntaf i'r brig yn erbyn myfyrwyr a hyfforddeion y gyfraith o bob rhan o'r DU, ac mae wedi'i henwi'n un o'r 10 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Meddwl Cyfreithiol y Dyfodol 2020 y National Accident Helpline.

Mae'r gystadleuaeth wedi'i chynnal ers chwe blynedd ac mae cyn-enillwyr wedi llwyddo i ddod yn fargyfreithwyr a chyfreithwyr.

Hoffai Tamar, sy'n dod o Gernyw, fod yn gyfreithiwr ac ymgyrchydd cyfraith amgylcheddol pan fydd yn gadael y brifysgol. Roedd ei chais i'r gystadleuaeth yn dadlau bod angen i bolisïau amgylcheddol weld "newidiadau radical", gan gynnwys lleihau allyriadau a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, er mwyn taclo newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd bod cyfreithwyr amgylcheddol yn "hanfodol" gan mai nhw fyddai'n sicrhau bod deddfau amgylcheddol newydd a chyfredol yn cael eu "cynnal yn ymarferol".

Wrth drafod ei llwyddiant dywedodd Tamar, "Rwy'n falch iawn o gyrraedd rownd terfynol cystadleuaeth benigamp fel hon, yn enwedig o ystyried bod cyfraith amgylcheddol yn un o'r meysydd cyfreithiol sy'n cael ei anghofio amlaf, ac sydd wir angen mwy o sylw.

"Rwy'n ddiolchgar iawn am gael cydnabyddiaeth i fy sgiliau a'm gwaith caled fel hyn gan weithwyr proffesiynol cyfreithiol, ac rwy'n gobeithio y byddaf yn gwneud argraff dda yn y rownd derfynol."

Dywedodd Tom Fitzgerald, Rheolwr Gyfarwyddwr National Accident Helpline: "Roedd yn amlwg o fideo a thraethawd Tamar ei bod hi'n teimlo'n angerddol iawn dros ddod yn gyfreithiwr amgylcheddol, a hoffwn ddymuno pob lwc iddi ar gyfer y rownd derfynol."

Bydd enillydd Meddwl Cyfreithiol y Dyfodol 2020 yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai. Bydd yr enillydd yn cael gwobr o £2,000 ac yn cael ei fentora gan gyfreithwyr profiadol.

Rhannu’r stori hon