Ewch i’r prif gynnwys

Crebwyll a chyfoeth yn 2020: Sefydliad Confucius Caerdydd yn croesawu Blwyddyn y Llygoden Fawr

3 Ebrill 2020

Girl playing Chinese instrument

Yn ôl y Sidydd Tsieineaidd, 2020 yw Blwyddyn y Llygoden Fawr.

Y llygoden fawr yw'r anifail cyntaf yn y cylch 12 mlynedd a ddewiswyd, yn ôl y gred hynafol, drwy ras a orchmynnwyd gan yr Ymerawdwr Jâd.  Roedd y gystadleuaeth yn cynnwys croesi afon lifeiriol, felly neidiodd y llygoden fawr ar gefn yr ychen; gwthiodd y gath i'r dŵr; yna neidiodd o flaen yr anifeiliaid eraill i gyd i gyrraedd y safle cyntaf buddugol. Caiff y llygoden fawr felly ei chysylltu â chrebwyll, sioncrwydd a bywioldeb, yn ogystal â bod yn arwydd o gyfoeth a gormodedd.

Chinese dragon and her baby

I ddathlu dechrau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, trefnodd y tîm yn Sefydliad Confucius Caerdydd gyfres o ddigwyddiadau ar draws de a gogledd Cymru. Cafwyd dechrau da i’r gweithgareddau yn Llyfrgell Treganna ddechrau mis Ionawr, gyda sesiwn Tai Chi wythnosol gyntaf y Meistr Crefftau Ymladd Cheng Zhang. Ar 17 Ionawr, cynhaliodd Ysgol Gynradd Llansannor y cyntaf o ddau Ddiwrnod Iaith gyda'r disgyblion yn dysgu Mandarin sylfaenol. Cafodd myfyrwyr o ysgol addysg arbennig Woodlands gyfle i wneud yr un peth ar 22 Ionawr, yn ogystal â choginio twmplenni; gweithgaredd teuluol traddodiadol yn ystod y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd; peintio mygydau wyneb a rhoi cynnig ar dorri papur.

Cardiff Confucius Institute tutors and volunteers at Chinese New Year

Yn ddiweddarach ym mis Ionawr, trefnodd y tiwtoriaid 'Gornel Tsieineaidd' arbennig yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd. Roedd y digwyddiad yn gyflwyniad i'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, yn edrych ar beth mae pobl Tsieina yn ei wneud ar yr adeg hon o'r flwyddyn a'r rhesymau pam. Daeth nifer da i'r digwyddiad oedd yn cynnwys gwneud llusernau a dyfalu posau. Mae'r ddau weithgaredd yn dyddio'n ôl i'r cyfnod hynafol, gyda'r ail yn deillio o'r cyfnod pan oedd cynghorwyr yr Ymerawdwr yn rhoi awgrymiadau ar ffurf posau rhag ofn na fyddai croeso iddyn nhw!

Chinese tutor and child

Cynhaliodd Sefydliad Confucius Caerdydd ddwy Gornel Tsieineaidd arall yn ystod cyfnod y Flwyddyn Newydd; darlith 'Etymoleg Nodau Tsieinëeg' ac un arall 'Ffordd o Fyw yn Tsieina Fodern'. Mae'r Sefydliad yn cynnal y digwyddiadau hyn yn rheolaidd yn y brifysgol, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr ddysgu mwy am Tsieina draddodiadol a modern.

Ar ddiwedd y mis, aeth tiwtoriaid a gwirfoddolwyr o blith y myfyrwyr i Ganolfan y Ddraig Goch am ddiwrnod o weithgareddau Tsieineaidd ymarferol. Roedd y plant yn arbennig yn mwynhau torri papur a gwneud llusernau, a chafodd pobl o bob oed gyfle i ddysgu fersiwn Tsieinëeg eu henwau a'u hysgrifennu mewn nodau Tsieinëeg yn ystod sesiynau llythrennu.

Cynhaliwyd nifer o ddathliadau diwylliannol eraill yn ne Cymru ym mis Chwefror, yn cynnwys digwyddiadau mawr fel yr un yn hyb llyfrgell Llandaf. Denodd hwn 500 o bobl, gan gynnwys seremoni te, dillad traddodiadol, Kung Fu a pherfformiadau ar offerynnau Tsieineaidd. Cynhaliodd y Sefydliad ddigwyddiadau mewn ysgolion hefyd gan gynnwys Ysgol Gynradd Nottage a St Cyres, a threfnodd Ysgol Gynradd Sili wythnos gyfan o ddigwyddiadau! Yn ogystal, roedd y tiwtoriaid a'r gwirfoddolwyr yn rhan o 'Ddiwrnod Disgyblion sy'n Llysgenhadon Iaith' a gynhaliwyd gan Llwybrau Cymru, a 'Diwrnod Llusernau' yn Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd. Mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol ar y cyd â'r Ysgol Busnes, a'r bwriad yw helpu myfyrwyr Tsieineaidd i deimlo'n gartrefol yng Nghymru.

Chinese tea ceremony

Arweiniodd ein tiwtoriaid yng ngogledd Cymru amrywiol weithgareddau hefyd i ddathlu'r flwyddyn newydd. Cafodd Ysgol Aberconwy sesiynau'n amrywio o goginio i ddysgu iaith, ac roedd disgyblion yn gallu rhoi cynnig ar gelf Tsieineaidd drwy wneud llusernau, draig enfawr, a pheintio platiau mewn patrwm glas a gwyn traddodiadol.

Yn Ysgol Eirias, dechreuodd y dathlu ym mis Chwefror gyda 'Tsieina Liwgar', gŵyl lusernau i fyfyrwyr blwyddyn pump o ysgolion cynradd lleol: Ysgol Cystennin; Ysgol Pen y Bryn; Ysgol Saint Joseph; ac Ysgol Nant y Groes. Cafodd y disgyblion y cyfle i wneud nodau llyfr â'u henwau, chwarae gemau a chael blas ar fyrbrydau Tsieineaidd. Bu myfyrwyr Blwyddyn 7 yn Ysgol Eirias hefyd yn perfformio'r gerdd Tsieinëeg hynafol 'Cân Yfory'.

Children Chinese New Year

Rhannu’r stori hon