Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau uwchgyfrifiadura Hawk yn cael eu defnyddio i gefnogi ymchwil y LabordyGwrthGasineb

31 Mawrth 2020

Hawk equipment

Fe wnaeth ymchwil a gynhaliwyd drwy ddefnyddio’r cyfleusterau uwchgyfrifiadura yn y LabordyGwrthGasineb ym Mhrifysgol Caerdydd gyfrannu at adroddiad arbennig gan Newyddion ITV am fynegi casineb ar-lein. Mae’r labordy’n ganolfan fyd-eang ar gyfer data a gwybodaeth am fynegi casineb a throseddau casineb.

Mae’r LabordyGwrthGasineb yn defnyddio dulliau gwyddor data, gan gynnwys ffurfiau moesegol ar ddeallusrwydd artiffisial (AI), er mwyn mesur ac atal problemau casineb ar-lein ac all-lein. Gan ddefnyddio gwasanaethau ARCCA, mae ymchwilwyr y LabordyGwrthGasineb wedi datblygu ystod o ddosbarthwyr dysgu peiriannol sydd wedi’u dylunio er mwyn canfod casineb sy’n cael ei fynegi ar-lein ar draws nodweddion gwarchodedig sy’n cynnwys, hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol ac anabledd.

Mae’r adroddiad yn cynnwys cyfraniadau gan yr Athro Matt Williams (“Anti-Semitism on Social Media”, prosiect uchgyfrifiadura Cymru scw1283, Prif Archwilydd) a Sefa Ozalp o LabordyGwrthGasineb Prifysgol Caerdydd sy’n cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) ac Adran Cyfiawnder yr Unol Daleithiau.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan ITV

Rhannu’r stori hon