Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn cyhoeddi ei bod yn rhyddhau £300m o fondiau 3% i'w had-dalu yn 2055

1 Chwefror 2016

 Main building 2016

NID I'W DDOSBARTHU NA'I GYHOEDDI YN UNOL DALEITHIAU AMERICA (NAC I BOBL O UDA),  AWSTRALIA, CANADA NEU SIAPAN, NEU MEWN UNRHYW AWDURDODAETH ARALL LLE BYDDAI CYNNIG NEU WERTHU GWARANNAU YN CAEL EI WAHARDD GAN Y DDEDDF BERTHNASOL

Nid yw'r datganiad hwn i'r wasg yn gynnig i werthu nac yn gais i brynu unrhyw warannau yn yr Unol Daleithiau. Nid yw'n gynnig, yn gais nac yn werthiant mewn unrhyw awdurdodaeth lle byddai hynny'n anghyfreithlon cyn cofrestru neu gymhwyso o dan ddeddfau gwarannau unrhyw dalaith neu wlad. Ni chaiff unrhyw warannau eu cynnig neu eu gwerthu yn yr Unol Daleithiau oni bai eich bod wedi eich cofrestru o dan Ddeddf Gwarannau 1933 UDA, fel y'i diwygiwyd (y "Ddeddf Gwarannau") neu wedi cael eithriad perthnasol o'r gofynion cofrestru. Ni chaiff unrhyw warannau eu cynnig yn gyhoeddus yn yr Unol Daleithiau. Cyhoeddir y datganiad hwn i'r wasg yn unol â Rheol 135e o dan y Ddeddf Gwarannau.

Heddiw, mae Prifysgol Caerdydd yn cyhoeddi ei bod yn rhyddhau £300m o fondiau 3% i'w had-dalu yn 2055

Disgwylir i Moody's ddisgrifio'r bondiau fel rhai Aa2 (rhagolygon sefydlog). Cafodd y bondiau eu prisio dros ystod o 0.85% yng nghyd-destun cyfeirnod perthnasol eu gwarant. 

Bydd y Brifysgol yn defnyddio enillion net y Bondiau at ddibenion corfforaethol cyffredinol, gan gynnwys buddsoddi mewn cyfleusterau ymchwil ac addysgu, yn ogystal ag asedau eraill y Brifysgol. 

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Rydym yn falch iawn o lwyddiant y cynllun rhyddhau hwn, yn ogystal â’r gefnogaeth gadarn gan y buddsoddwyr.

"Bydd yr elw a wneir drwy werthu'r bondiau yn ein helpu i ariannu ein nodau strategol.

"Ein nod yw darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer ymchwil, addysgu a'n myfyrwyr drwy weithredu ein Cynllun Meistr."

HSBC, Lloyds Bank a Morgan Stanley oedd y cyd-warantwyr. Rhoddodd Rothschild gyngor annibynnol am ddyledion i'r Brifysgol a rhoddodd Mills & Reeve gyngor cyfreithiol.

Rhannu’r stori hon