Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigwyr mathemateg yn cefnogi gwyddonwyr y dyfodol yn Affrica

11 Ionawr 2016

Staff from the University of Namibia visiting Cardiff University School of Mathematics

Mae Prifysgol Caerdydd wedi helpu i drefnu ysgol mathemateg dwys yn Namibia i fynd i'r afael â'r gwyddonwyr posibl sy'n gadael, a'r sgiliau hanfodol a gollir yn sgîl hynny.

Rhaid i'r rhan fwyaf o'r myfyrwyr sy'n astudio gradd wyddoniaeth ym Mhrifysgol Namibia (UNAM) ennill cymhwyster mathemateg yn eu blwyddyn gyntaf. Fodd bynnag, nid yw llawer ohonynt yn cwblhau eu cyrsiau oherwydd diffyg sgiliau a gwybodaeth fathemategol.

Mae Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd yn gweithio gydag UNAM i gynnig 'ysgol haf' bythefnos o hyd i 120 o fyfyrwyr UNAM. Byddant yn mynd ar gwrs peilot fel rhan o hyfforddiant sefydlu cyn dechrau eu graddau.

Mae'r cwrs dwys, a gynhelir ym mis Ionawr – pan mae'n haf yn Namibia - yn rhan o Brosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd. Prosiect ymgysylltu yw hwn sy'n gweithio gydag UNAM ar lu o weithgareddau sy'n ymwneud ag addysg, iechyd a gwyddoniaeth.

Gyda lwc, bydd yr ysgol haf yn paratoi'r myfyrwyr yn well ar gyfer adran fathemateg eu cyrsiau, a helpu i leihau'r niferoedd sy'n gadael.

Dywedodd Dr Rob Wilson, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd: "Y nod yw gloywi sgiliau mewn pynciau mathemategol hanfodol yn ogystal â chynyddu hyder a lleihau'r pryderon a allai fod gan rai myfyrwyr ynghylch mathemateg.

"Bydd rhai cysyniadau mathemategol yn cael eu cyflwyno ynghyd â dulliau cyffredinol o ddysgu mathemateg. Ein nod yw annog myfyrwyr i gydweithio a thrafod syniadau er mwyn eu helpu i gynyddu eu gwybodaeth a'u hyder."

University of Namibia

Bydd y rhaglen, a gynhelir ar brif gampws Windhoek UNAM, yn dechrau ar 11 Ionawr ar gyfer myfyrwyr newydd ar draws y cyfadrannau sy'n astudio mathemateg yn y flwyddyn gyntaf.

Bydd dau aelod o staff a dau fyfyriwr ôl-raddedig o Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd yn cydweithio â staff mathemateg UNAM.

Dywedodd Dr Wilson fod y prosiect wedi bod yn brofiad dysgu gwych i'r ddau fyfyriwr ôl-raddedig o Brifysgol Caerdydd yn ogystal ag iddo ef ei hun a Dr Vincent Knight sy'n gweithio gydag ef yn yr Ysgol Mathemateg.

"Mae mynd yno ac addysgu pobl o wahanol gefndir a diwylliant, ond gyda thema gyffredin o dan sylw, yn brofiad cyffrous," meddai Dr Wilson.

"Bydd diddordeb mawr gen i mewn gweld a oes gwahaniaethau o bwys o ran ymagwedd."

Dywedodd Dr Martin Mugochi, pennaeth mathemateg yn UNAM, mai bwriad y rhaglen oedd "annog myfyrwyr newydd sy'n astudio cyrsiau mathemateg i ymgysylltu â syniadau a chysyniadau mathemategol er mwyn cynyddu eu hyder mewn cysylltiad â mathemateg, ac atgyfnerthu eu gwybodaeth sylfaenol am fathemateg".

"Rydym yn gobeithio y bydd y rhaglen beilot hon yn cael effaith ddigonol, er mwyn iddi allu cael ei hymestyn ymhellach yn y dyfodol, i gynnwys amrywiaeth ehangach o fyfyrwyr," meddai.

Mae Prosiect Phoenix, sy'n cefnogi Rhaglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru, yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd ac UNAM ac mae o fudd i'r naill ochr fel y llall.

Mae gan staff o dri Choleg Prifysgol Caerdydd rôl uniongyrchol, yn ogystal â staff gwasanaethau proffesiynol mewn meysydd fel Llyfrgelloedd ac Adnoddau Dynol.

Mae'r prosiect yn cwmpasu tri maes cyffredinol: menywod, plant a chlefydau heintus; gwyddoniaeth; a chyfathrebu.

Mae'n un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd, neu'r Rhaglen Trawsnewid Cymunedau, sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.