Ewch i’r prif gynnwys

Canslo digwyddiad: Ffair Gyrfaoedd Amgen ym Myd y Gyfraith, 25 Mawrth 2020

16 Mawrth 2020

Oherwydd y sefyllfa barhaus a newidiol o ran y Coronafeirws (COVID-19), rydym wedi penderfynu canslo Ffair Gyrfaoedd Amgen ym Myd y Gyfraith er lles ein staff, myfyrwyr a’r rhai oedd yn bwriadu mynd i’r digwyddiad. Roedd i fod i gael ei gynnal ddydd Mercher, 25 Mawrth. Cam rhagofalus yw hwn y mae’n rhaid i ni ei gymryd yn ein barn ni o ystyried yr amgylchiadau presennol.  Mae’n ddrwg iawn gennym am unrhyw siom y gallai hyn ei hachosi.

Byddem yn argymell i fyfyrwyr fynd i Fewnrwyd y Myfyrwyr i weld rhestr o’r cyflogwyr oedd i fod i fynd i’r digwyddiad, gan gynnwys rhestr o wefannau’r cyflogwyr. Gallwch hefyd edrych ar Fwrdd Swyddi Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd (chwiliwch am ‘Bwrdd Swyddi’ ar y Fewnrwyd) er mwyn dod o hyd i swyddi a hysbysebir a gwneud cais ar eu cyfer. Yn ôl yr arfer, cadwch lygad ar fy ebyst i gael manylion am gyfleoedd newydd sy’n dod i’r amlwg.

Ymddiheurwn o waelod calon am unrhyw anghyfleustra y mae’r penderfyniad hwn yn ei achosi.

Rhannu’r stori hon