Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant rhanbarthol i Adran y Gyfraith Caerdydd mewn cystadleuaeth cyfweld â chleientiaid

12 Mawrth 2019

Robert Wells and Sasha Poole, pictured with Professor Julie Price (centre)

Bydd dau fyfyriwr ail flwyddyn yn y Gyfraith yn cynrychioli Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn rownd derfynol genedlaethol Cystadleuaeth Cyfweld â Chleientiaid ar ôl ennill y rownd ranbarthol fis Chwefror.

Bu Robert Wells, sy'n astudio'r Gyfraith a Gwleidyddiaeth, a Sasha Poole, sy'n astudio'r Gyfraith, yn cystadlu yn erbyn wyth o dimau prifysgol eraill i gael eu henwi'n gyd-enillwyr ochr yn ochr â myfyrwyr o Brifysgol Plymouth yn Rhanbarth y De Orllewin yng Nghystadleuaeth Cyfweld â Chleientiaid Cymru a Lloegr.

Cynhaliwyd y rownd ranbarthol ar gampws Caerdydd Prifysgol De Cymru ar 15 Chwefror 2020 ble roedd timau o fyfyrwyr y gyfraith yn cyfweld â 'chleientiaid' newydd am y tro cyntaf. Roedd angen i'r myfyrwyr ddatblygu perthynas gyda'r cleient, canfod cymaint â phosibl o wybodaeth berthnasol am bryderon y cleient, sicrhau eu bod yn deall y broblem, cynnig cyngor cyfreithiol perthnasol a phwrpasol a chynnig opsiynau ymarferol i'r cleient ddewis o'u plith fel rhan o amrywiaeth o achosion damcaniaethol wedi'u cynllunio i amlygu eu sgiliau.

Pwnc cyfreithiol y gystadleuaeth oedd Difrod i Eiddo: cyfraith sifil a bu Robert a Sasha'n ymdrin â chleient anodd oedd wedi torri coeden ei gymydog ac oedd yn anfodlon trosglwyddo llythyr oedd yn bygwth mynd â'r cleient i'r llys. Buon nhw hefyd yn ymdrin â chleient oedd yn actifydd hawliau anifeiliaid, nad oedd am ddatgelu'n llawn ei fwriad i greu anhrefn i bobl yr oedd yn teimlo na ddylen nhw fod yn cadw geifr mewn gerddi yn y ddinas. Yn y senarios hyn bu Robert a Sasha'n trin agweddau ar y gyfraith oedd yn cynnwys niwsans, esgeulustod a thresbas yn ogystal â phrofi eu sgiliau cyfathrebu a thrin pobl.

Wrth siarad ar ôl y gystadleuaeth dywedodd yr Athro Julie Price, "Llongyfarchiadau a diolch i Robert a Sasha a wnaeth ymdrech fawr i barataoi ar gyfer y gystadleuaeth yn ogystal â chadw i fynd gyda'u hastudiaethau gradd. Maen nhw'n llysgenhadon rhagorol i Gaerdydd. Diolch hefyd i Sue Heenan am hyfforddi nifer sylweddol o'n myfyrwyr ar gyfer ein cystadleuaeth fewnol. Pob lwc i'r tîm yn y Rownd Derfynol Genedlaethol."

Y Gystadleuaeth Cyfweld â Chleient yw un yn unig o'r cyfleoedd mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn eu cynnig i helpu ein myfyrwyr i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy fydd o ddefnydd yn eu gyrfaoedd ar ôl graddio.

Mae rownd derfynol y Gystadleuaeth Cyfweld â Chleientiaid wedi'i gohirio oherwydd yr ansicrwydd ynghylch y sefyllfa coronafeirws gyfredol. Gobaith Pwyllgor y Gystadleuaeth yw y caiff ei haildrefnu maes o law.

Rhannu’r stori hon