Ewch i’r prif gynnwys

Traethawd Ymchwil Weithrediadol Gorau yn y DU gan ddarlithydd o’r Ysgol Mathemateg

25 Chwefror 2020

Dr Geraint Palmer

Mae darlithydd o’r Ysgol Meddygaeth wedi’i wobrwyo am lunio’r traethawd PhD gorau yn y DU, ym maes Ymchwil Weithrediadol.

Mae Dr Geraint Palmer wedi’i gydnabod gan y Gymdeithas Ymchwil Weithrediadol am y traethawd PhD gorau ym maes ymchwil weithrediadol yn y DU yn 2018.

Gwobr flynyddol yw hon, a ddyrennir am y “corff mwyaf nodedig o ymchwil sy’n arwain at gyflawni doethuriaeth ym maes ymchwil weithrediadol”, gyda gwobr werth £1,500. Hefyd, bydd enw Dr Palmer yn cael ei ysgythru ar Darian Goffa George Patterson. Yn ddiweddar, fe deithiodd i’r Gymdeithas Frenhinol yn Llundain i Ddarlith Goffa flynyddol Blacket er mwyn derbyn ei wobr.

Meddai Dr Palmer: “Anrhydedd yw cael fy newis fel enillydd y wobr, ac rwy’n dilyn ôl troed llu o gynrychiolwyr o Gaerdydd: Enillodd Richard Wood y wobr yn 2011, daeth Julie Vile yn ail yn 2013 fel y gwnaeth Rob Shone yn 2014.

“Nawr, byddaf yn cyflwyno darlith i’r Gymdeithas Frenhinol ym mis Chwefror 2021, anrhydedd mawr o ystyried ei lleoliad (ambell i ddrws i ffwrdd o’r Frenhines), a’i hanes hir gyda rhai o’r gwyddonwyr mwyaf nodedig dros y canrifoedd diwethaf.

“Diolch yn fawr am fy ngoruchwylwyr PhD anhygoel, yr Athro Paul Harper a Dr Vincent Knight.”

Cyflawnodd Dr Palmer ei BSc mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn dod i Brifysgol Caerdydd lle cyflawnodd ei MSc mewn Ymchwil Weithrediadol ac Ystadegaeth Gymhwysol a’i PhD mewn Modelu Stocastig Cymhwysol. Bellach, mae’n ddarlithydd cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Mathemateg.

Rhannu’r stori hon