Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi prif siaradwr cynhadledd ryngwladol

18 Chwefror 2020

Dr Sada Mire
Dr Sada Mire

Enwyd awdurdod byd-eang ar archaeoleg Gogledd-ddwyrain Affrica fel y prif siaradwr mewn cynhadledd ryngwladol sy’n digwydd yng Nghaerdydd eleni.

Bydd Dr Sada Mire yn traddodi darlith o’r enw “Etifeddiaeth Archaeoleg Horn Somalïaidd Affrica’ yng nghynhadledd ryngwladol Cymdeithas Astudiaethau Affricanaidd y DU (ASAUK) a gynhelir yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth y mis Medi hwn.

Mae Dr Mire yn archaeolegydd o dras Swedaidd- Somalïaidd sydd wedi ennill gwobrau ac sydd â doethuriaeth o Sefydliad Archaeolegwyr Coleg Prifysgol Llundain. Hi oedd cyfarwyddwr a sylfaenydd Adran Archaeoleg Somaliland tan 2012 ac mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar hanes, diwylliant ac archaeoleg Gogledd-ddwyrain Affrica. Mae rhaglenni nodwedd wedi’u comisiynu ar ei gwaith yn ymddangos yn rheolaidd yn y cyfryngau rhyngwladol, gan gynnwys Sianel Pedwar yn y DU. HI yw sylfaenydd a chyfarwyddwr gweithredol Cymdeithas Etifeddiaeth yr Horn, sefydliad ymchwil archaeoleg ac etifeddiaeth sydd â swyddfeydd yn Horn Affrica a’r Iseldiroedd.

Bydd darlith Dr Mire yn cyflwyno treftadaeth archaeolegol gyfoethog Horn Somalïaidd Affrica, sydd newydd ddechrau cael ei datgelu a’i hastudio’n systematig. Mae’r gwaith archaeolegol diweddar hwn wedi amlygu’r ymerodraethau brodorol cyn-Gristnogol a chyn-Islamaidd enfawr a fu’n rhan o bryd i’w gilydd o ddiwylliannau Himyal a Sabaea De Arabia, y byd Groegaidd-rufeinig a byd Aksumaidd a’r teyrnasoedd Islamaidd cynnar. Mae’r rhanbarth hwn yn groesffordd ddiwylliannol hynafol ac mae ei dreftadaeth yn dyst i gymhlethdod cymdeithasol ac amrywiaeth diwylliannol. Bydd y ddarlith yn trafod rôl y dreftadaeth hon yn yr heriau sy’n wynebu’r cymdeithasau ar Horn Affrica ar hyn o bryd.

Ar ôl i Dr Mire roi’r brif ddarlith yng Nghaerdydd, bydd yn rhoi darlith wadd yn yr Academi Brydeinig yn ei Chyfres Safbwyntiau Byd-Eang.

“Mae Dr Sada Mire wedi bod ar flaen y gad o ran adfywio rheoli ymchwil a threftadaeth archaeolegol yn Somalia a Somalialand, ar ôl blynyddoedd o esgeulustod dealladwy o ganlyniad i’r rhyfel cartref mewnol ac effeithiau mwy diweddar Islam radical ar draws y rhanbarth. Gyda chymorth llywodraeth Somaliland, mae hi wedi mynd ati’n ddychmygus i ailadeiladu gwasanaethau treftadaeth lleol, gan dynnu ar gysyniadau brodorol am werthoedd treftadaeth a llunio treftadaeth. Wrth wneud hyn mae Dr Mire wedi cynnig ymagwedd wirioneddol ôl-drefedigaethol tuag at ddiogelu a gwarchod treftadaeth yn y wlad a beth yw’r ffordd orau o ysgogi gwybodaeth a chof am orffennol dwfn Somalia er mwyn i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol gael y budd mwyaf.

Paul Lane, Jennifer Ward, Athro Oppenheim Hanes Dwfn ac Archaeoleg Affrica, Prifysgol Caergrawnt

Meddai Pennaeth yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro James Hegarty: “Rydym yn hynod falch bod y digwyddiad pwysig hwn yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd yn ystod canmlwyddiant sylfaenu’r Adran Archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Edrychwn ymlaen at ymwneud archaeolegwyr Caerdydd mewn digwyddiad bord gron ar Dystiolaeth, Cof a Dehongliadau o Affrica ym Mhrydain: Safbwyntiau o faes Archaeoleg a Hanes Cynnar.”

Cynhelir y gynhadledd ddwyflynyddol gan Ganolfan y Gyfraith a Chyfiawnder yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ar 8-10 Medi 2020. Mae’r gynhadledd wedi cael cymorth ar ffurf bwrsariaethau gan Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Caerdydd; Yr Academi Brydeinig; a Sefydliad Harry Frank Guggenheim. Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd o ddiwedd mis Chwefror ar wefan ASAUK.

Rhannu’r stori hon