Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaethau brys meddygol yn Indonesia – ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn ymweld â Jakarta

17 Chwefror 2020

Group of Indonesian and British researcher standing in front of a banner showing, Emergency Sevices International Seminar.

Dywedon ni fis Gorffennaf y byddai ymchwilwyr o Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys Cyfarwyddwr DIRI, Paul Harper, yn helpu gwasanaethau meddygol brys Indonesia i ddatblygu ar ôl derbyn £559,000 i’r diben hwnnw.

Arweiniodd Paul Harper ymweliad tîm ymchwil ag Indonesia y mis diwethaf (Chwefror). Roedd yr ymweliad yn rhan o’r prosiect y soniwyd amdano uchod o dan nawdd EPSRC (er ymchwil i’r gwyddorau mathemategol a heriau byd-eang) ac fe gymerodd staff o Brifysgol Caerdydd, Gwasanaeth Ambiwlansys Cymru a Phrifysgol Wisconsin-Madison ran ynddo.

Dyma adroddiad Sarie Brice a Mark Tuson o ymweliad cyntaf y tîm a hynt y prosiect.

Roedd y rhaglen yn llawn gweithgareddau o’r diwrnod cyntaf. Ym mhrifddinas Indonesia, cwrddodd rhai o’r tîm â dau o uwch swyddogion Gwasanaeth Ambiwlansys 118 (Asti Puspitarini, y cyfarwyddwr, a’r Athro Aryono Pusponegoro, y sylfaenydd). Cyfnewidion ni wybodaeth am wasanaethau meddygol brys yn ein gwledydd. Cynhaliodd y ddau dîm weithdy undydd lle y bu dros 170 o bobl (meddygon, nyrsys, criwiau ambiwlansys, academyddion a swyddogion o Weinyddiaeth Iechyd Indonesia). Ymatebodd y gynulleidfa yn dda i’r cyflwyniadau a dweud bod y tîm wedi agor eu llygaid i’r modd y gallen nhw ddefnyddio modelu mathemategol ar gyfer datrys anawsterau gofal iechyd yn eu gwlad.

Group of people from Indonesian and Wales standing in front of an Indonesian ambulance

Yn ystod y gweithdy, cyflwynodd Sarie (oedd wedi bod yn cydweithio â thîm 118 yn Indonesia ers chwe wythnos eisoes) ganlyniadau arolygon mis eu hyd o bum adran frys yn y brifddinas - roedd y data wedi’u casglu yn ystod gwaith dechreuol y grant ac roedd 2,000 o ymatebion wedi’u cyflwyno hyd at hynny.  Hyd yma, doedd neb wedi deall yn drylwyr y galw am wasanaethau meddygol brys yn Indonesia na sut y gall cleifion fynd i’r ysbyty gan fod prinder ambiwlansys.  Mae llawer o bobl y wlad yn marw o ganlyniad i anafiadau a thrawiadau ar y galon a’r ymennydd.

Y cam cyntaf fydd darogan y galw fesul ardal a chyfnod ledled prifddinas mae 11 miliwn o bobl yn byw ynddi ac, wedyn, bydd modelu i bennu faint o ambiwlansys ddylai fod ym mhob bro a pha fath o gerbydau (megis ceir a beiciau modur) fydd yn briodol yno.  Gan fod rhaid i ambiwlans gyrraedd yr ysbyty cyn gynted ag y bo modd, bydd y modelu’n arbennig o ymestynnol a diddorol am y bydd angen cymryd elfennau megis tagfeydd a’r galw i ystyriaeth.

Yn ystod wythnos yr ymweliad, aeth y tîm i nifer o ysbytai mawr yn ogystal â sefydliad dros ymateb i argyfyngau megis daeargrynfeydd, tonnau llanw ac ymosodiadau gan frawychwyr. Croesawodd cyfarwyddwyr yr ysbytai a’u staff y tîm. Yn sgîl yr ymweliad, mae sefydliadau ac unigolion yn awyddus i sefydlu rhagor o gydweithio a all eu helpu i ddysgu rhagor a gwella eu sustemau.  Y bwriad bellach yw sefydlu nifer o brosiectau MSc Gwyddorau Data ac y cyd â’n partneriaid newydd yn Indonesia.

Rhannu’r stori hon