Ewch i’r prif gynnwys

Ecofeminist Thought & Rewilding

10 Chwefror 2020

Rewildling

Mae’r Athro Susan Baker, Cyd-gyfarwyddwr Mannau Cynaliadwy yn cyfrannu at bodlediad diweddaraf Sesiynau Sied Spotify yn rhan o’r gyfres Rewilding.

Yn y bennod ddiweddaraf o bodlediadau’r gyfres Rewilding, Ecofeminist Thought & Rewilding, mae Anna Souter, cyd-guradur yr arddangosfa Rewind/Rewild yn mynd i’r afael â ffordd newydd gyffrous o feddwl am y byd naturiol. Mae hi’n rhannu sgwrs gan yr Athro Susan Baker, a draddodwyd yn ystod y Fforwm Ailwylltio yn 2019, sy’n trafod y symudiad ailwylltio drwy lygad ffeminyddol gan grybwyll materion megis rheoli, gormes, disgwyliadau a deuoldeb yn ein perthynas â natur a’r amgylchedd. A ddylem ddilyn y llwybr ailwylltio sy’n bodoli heddiw?

Wrth drafod ailwylltio, dywedodd yr Athro Baker, “Mae Ailwylltio yn flêr. Mae llefydd gwyllt yn llefydd lle mae bywyd, a marwolaeth. Lleoedd lle ceir tyfiant a phydredd, sborio ac ysglyfaethu. Maent yn fwy na llefydd hardd. Maen nhw’n sy’n amlygu chwydredd natur, yn ogystal â’i harddwch”

Bydd y podlediad diweddaraf yn eich annog i gwestiynu popeth am ailwylltio a sut le fydd ein dyfodol ecolegol.

Mae Shed Sessions yn sesiynau sy’n cael ei recordio yn siediau mawr y byd ac yn amrywio rhwng trafod bwyd, celf a’r amgylchedd. Maen nhw’n cael eu cynnal gan Tom Broadhead ac mae OmVed Gardens, canolfan bwyd a garddio yng ngogledd Llundain yn eu cefnogi.

Gwrandewch ar gyfres ailwylltio Shed Sessions nawr

Rhannu’r stori hon