Ewch i’r prif gynnwys

Uwchraddio ar gyfer yr uwchgyfrifiadur "Hawk"

28 Ionawr 2020

ARCCA server room

Mae uwchgyfrifiadur y Brifysgol, “Hawk”, bellach wedi cael uwchraddiad sylweddol ar ôl cael cyllid cyfalafol am estyniad Cyfnod 2 ar Gyfleuster Uwchgyfrifiadura Caerdydd.


Mae’r estyniad Cyfnod 2 hwn wedi’i ariannu gan Fwrdd Gweithredol y Brifysgol (UEB) ar y cyd â Chyngor Cyllido Addysgu Uwch Cymru (CCAUC), ac yn cynnig galluoedd cyfrifiadura newydd i gymuned ymchwil HPC Caerdydd, sef 64 x prosesydd deuol AMD Rome 7502 nod i gyd-fynd â’r adnodd cyfrifiadura Intel Skylake presennol.


Bydd yn cynnig 4,160 o greiddiau ychwanegol, o allu X86-64. Bydd y galw cynyddol am Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) ac adnoddau Dysgu Dwfn yn cael ei ddiwallu drwy raniad GPU estynedig, gyda 15 x nodau GPU-deuol Nvidia V100, i adeiladu ar y nodau GPU-deuol Nvidia P100 presennol.


Hefyd, bydd y rhaniad storio Lustre presennol yn cael ei ehangu i gynnig 500 TBeit mwy o le storio ffeiliau cyfochrog.  Cafodd gosodiad y meddalwedd Cyfnod 2 ei gwblhau fis Rhagfyr 2019, a bydd yr adnoddau newydd hyn ar gael i gymuned y defnyddwyr cyn bo hir ar ôl cwblhau’r profion derbyn cysylltiedig yn llwyddiannus.


Ar ben diwallu galwadau cynyddol gan grwpiau ymchwil am gapasiti uwchgyfrifiadura ar gyfer prosiectau presennol a’r rhai sydd ar y gweill, bydd datblygiadau Cyfnod 2 hefyd yn cynnig rhagor o alluoedd ac adnoddau i gefnogi mwy o weithgareddau ymhellach ym meysydd Deallusrwydd Artiffisial a Gwyddorau Data drwy wella’r platfform Dadansoddeg Data Perfformiad Uchel, “Sparrow”

Rhannu’r stori hon