Ewch i’r prif gynnwys

Chinese tea ceremony for international staff

24 Hydref 2019

Qiqi Wang
Qiqi Wang, un o diwtoriaid Sefydliad Conffiwsias Caerdydd, yn ystod y seremoni.

Yn ymateb i wahoddiad Rhwydwaith Staff Rhyngwladol Prifysgol Caerdydd, cynhaliodd Sefydliad Conffiwsias Caerdydd seremoni de draddodiadol mewn caffi poblogaidd yn y Waun Ddyfal ddydd Iau 17eg Hydref.

Daeth bron 40 o’r staff rhyngwladol i fwynhau’r seremoni. Mewn gwisg draddodiadol, cyflwynodd tiwtoriaid o Sefydliad Conffiwsias Caerdydd de gwyrdd a du Tsieineaidd.

Mae Lin He, un o diwtoriaid Sefydliad Conffiwsias Caerdydd
Mae Lin He, un o diwtoriaid Sefydliad Conffiwsias Caerdydd, yn rhoi te i staff rhyngwladol.

Mwynhaodd pawb y te Tsieineaidd er bod y ffordd o’i wneud (heb laeth na siwgr) a’i gyflwyno (mewn cwpanau traddodiadol) yn wahanol iawn.

Roedd cyfle i’r staff ofyn amryw gwestiynau am y te a’i rôl yn niwylliant Tsieina. Mae’n ymddangos bod te wedi dod â staff o sawl gwlad a chefndir at ei gilydd.

Rhannu’r stori hon

Dysgwch fwy am yr hyn a wnawn a sut y gallwch chi gymryd rhan.