Diwrnod Sefydliad Confucius yn Llyfrgell Pen-y-lan
3 Hydref 2019
Ar 26 Medi fe wnaeth Sefydliad Confucius Caerdydd gynnal eu Diwrnod Sefydliad Confucius yn Llyfrgell Pen-y-lan. Roedd Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd hefyd yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Pen-y-lan ar yr un pryd.
Gwahoddwyd Sefydliad Confucius Caerdydd i ymuno â’r digwyddiad gyda phobl o gefndiroedd ieithyddol gwahanol, er mwyn hyrwyddo ieithoedd a diwylliannau o bob cwr o’r byd. Daeth bron i 200 o bobl i’r digwyddiad.
Trefnwyd y Diwrnod Ieithoedd gan Lyfrgell Ganolog Caerdydd er mwyn annog cyfathrebu rhyngwladol Cafodd amryw o ieithoedd eu cyflwyno i bobl, fel Mandarin, Cymraeg, Ffrangeg, Sbaeneg ac eraill, a chynhaliwyd nifer o weithgareddau diwylliannol gan amryw o sefydliadau a grwpiau.
Cynigiodd Sefydliad Confucius nifer o brofiadau amrywiol, gan gynnwys; cyflwyniad i Fandarin, Caligraffeg, Paentio Tsieineaidd, Tai Chi, Seremoni De, Torri papur a Chreu Llusernau.
Tuag at ddiwedd y digwyddiad, fe wnaeth band lleol oedd yn cynnwys pobl o wahanol wledydd ganu caneuon er mwyn annog pobl i groesawu cyfathrebu rhyngwladol.
Gwahoddwyd Lin Lifang, Cyfarwyddwr Academaidd Sefydliad Confucius Caerdydd i ymuno â nhw er mwyn perfformio Blodyn Jasmin, cân Tsieinëeg draddodiadol mewn Mandarin.
Dywedodd staff y llyfrgell a’r gynulleidfa eu bod wedi mwynhau’r digwyddiad yn fawr.