Gwedd newydd i'r Llyfrgell Ddeintyddol
16 Rhagfyr 2019
Mae prosiect a ariannwyd ar y cyd gan Wasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol a'r Ysgol Deintyddiaeth wedi adnewyddu Llyfrgell Brian Cooke, a leolir yn yr Ysgol Deintyddiaeth, i'w wneud yn haws i fyfyrwyr ei defnyddio.
Cynhaliwyd y gwaith adnewyddu dros gyfnod yr haf, ac wythnos diwethaf bu'r llyfrgell yn dathlu ei hailagoriad swyddogol. Yn rhan o waith adnewyddu'r llyfrgell, cafwyd:
- Carpedi newydd a chôt ffres o baent.
- 10 carrel astudio unigol, pob un â soced pŵer dwbl i wneud gwaith preifat â ffocws.
- Silffoedd is newydd y gellir eu cyrraedd yn haws ac sy'n gadael mwy o olau i mewn i'r ystafell.
Mae newidiadau hefyd yn digwydd i wella'r cymorth a'r gefnogaeth a gynigir i fyfyrwyr:
- Bydd yr oriau agor yn ymestyn ar ôl Nadolig, pan fydd ar agor i bawb rhwng 8am a 5pm (dydd Llun i ddydd Gwener). At hynny, bydd yn bosibl i ddefnyddwyr yr adeiladau sydd â cherdyn adnabod wedi'i alluogi fynd i'r llyfrgell rhwng 7am-8am a 5pm-6pm drwy'r system mynediad.
- Mae staff y llyfrgell ar gael i ateb ymholiadau wrth y ddesg rhwng 12pm a 2pm ddydd Llun i ddydd Gwener. Y tu allan i'r oriau hyn, mae cefnogaeth ar gael gan y Llyfrgell Iechyd dros y ffôn wrth y ddesg ymholiadau. Gellir ebostio ymholiadau at healthlibrary@caerdydd.ac.uk.
Dywedodd Natasha West, myfyriwr Deintyddiaeth a llywydd CDSS, 'Mae'r newidiadau i lyfrgell Brian Cooke wedi chwyldroi'r gofod, gan wneud iddo deimlo'n fwy agored tra'n cynnig mannau gwaith unigol a chymunedol. Hoffwn ddiolch i bawb sy'n rhan o'r prosiect, am ei fod wedi creu gofod sy'n hyrwyddo amgylchedd hynod gynhyrchiol a rhoi newid cadarnhaol ar waith o ran y ffordd y gallwn weithio.'