Ewch i’r prif gynnwys

Gwahoddiad i arweinydd cwrs MSc Mega-Adeiladau Cynaliadwy, Dr Eshrar Latif, fod yn brif siaradwr mewn cynhadledd a symposiwm rhyngwladol

5 Tachwedd 2019

Dr Eshrar Latif
Dr Eshrar Latif

Dr Eshrar Latif, Arweinydd Cwrs ar gyfer yr MSc mewn Mega-Adeiladau Cynaliadwy, wedi’i wahodd i fod yn brif siaradwr mewn dau ddigwyddiad pwysig.

Cynhelir y drydedd Gyngres Ryngwladol ynghylch Pensaernïaeth Gyfoes a Materion Trefol (ICCAUA 2020) yn Antalya, Twrci ar 6-8 Mai 2020. Nod y gynhadledd yw dod â gwyddonwyr, ymchwilwyr ac ysgolheigion ymchwil blaenllaw ynghyd i gyfnewid a rhannu profiadau a chanlyniadau ymchwil am bob agwedd ar bryderon, dulliau ac agweddau cyfoes ynghylch pensaernïaeth a threfolaeth. Mae hefyd yn cynnig prif fforwm rhyngddisgyblaethol i ymchwilwyr, ymarferwyr ac addysgwyr gyflwyno a thrafod y datblygiadau arloesol, y tueddiadau, y pryderon a’r heriau ymarferol diweddaraf a wynebwyd, ynghyd â'r atebion a ddefnyddiwyd ym maes Pensaernïaeth a Threfolaeth.

Mae Dr Latif wedi cael gwahoddiad i fod yn brif siaradwr yn y gynhadledd ac i rannu ei arbenigedd ar berfformiad hygrothermol amlenni adeiladau, adeiladau ynni isel, dylunio goddefol a deunyddiau adeiladu carbon isel ac effaith ynni ar lefel drefol.

Cynhaliwyd y ‘Symposiwm ynghylch datblygu seilwaith – llywio’r dyfodol drwy ddefnyddio atebion biolegol ar gyfer strwythurau ac adeiladau’ ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl ar 14 Hydref 2019. Cymerodd Prifysgol John Moores Lerpwl, Prifysgol Dechnegol Norwy, BRE, ICE, CEUK a CEGeorgTech ran yn y symposiwm, a oedd â’r nod o gynnig fforwm i ddiwydiant ac academyddion drafod tueddiadau a datblygu strategaethau ar gyfer agenda ymchwil sy’n cyd-fynd â’r Strategaeth Seilwaith.

Arweinydd Cwrs yr MSc mewn Mega-adeiladau Cynaliadwy, rhaglen sy’n canolbwyntio ar egwyddorion cynllunio cynaliadwy, dyluniadau a pherfformiad adeiladau uchel, graddfa-fawr yw Dr Eshrar Latif. I gael mwy o wybodaeth am y cwrs, ebostiwch Dr Latif: latife@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon