Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr glodfawr i ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa

25 Tachwedd 2015

Rebecca Melen
Dr Rebecca Melen

Dr Rebecca Melen yn ennill gwobr am gyflawniadau rhagorol mewn ymchwil catalysis  

Dyfarnwyd gwobr glodfawr sy'n cydnabod cyflawniadau rhagorol gwyddonwyr benywaidd ar ddechrau eu gyrfaoedd ymchwil, i Dr Rebecca Melen o'r Ysgol Cemeg.

Dyfarnwyd Gwobr Clara Immerwahr i Dr Melen, darlithydd cemeg anorganig, am ei chyfraniadau i faes yr elfennau prif grŵp mewn catalysis.

Bydd yn cael €15,000 i dalu am daith ymchwil i Cluster of Excellence "Unifying Concepts in Catalysis" (UniCat) yn Berlin yn 2016.

Mae'r wobr wedi cydnabod gwaith Dr Melen ar elfennau prif grŵp y tabl cyfnodol, a sut gellir eu defnyddio i ysgogi adweithiau sydd fel arfer yn cael eu cataleiddio gan gatalyddion metel trosiannol trymach.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dr Melen:  "Rwyf wrth fy modd â'r anrhydedd o ennill Gwobr Clara Immerwahr. Mae'r wobr yn gyfle gwych i astudio yng Nghanolfan UniCat yn Berlin, lle byddaf yn ystyried llwybrau ymchwil newydd. Fel cyn-Gymrawd Humboldt yn Heidelberg, bydd yn braf cael mwynhau'r cyfle i ymgysylltu â chydweithwyr yn UniCat, ac edrychaf ymlaen at ymdrochi yn niwylliant lleol yr Almaen a datblygu fy sgiliau iaith ymhellach."

Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Pennaeth yr Ysgol Cemeg: "Braf iawn oedd clywed am lwyddiant Dr Melen wrth iddi dderbyn Gwobr Clara Immerwah.  Mae'r wobr hon, sy'n cydnabod canlyniadau rhagorol Dr Melen yn ei gwaith ymchwil i gatalysis, hefyd yn tanlinellu cryfder Caerdydd ym maes catalysis. Mae'r cryfder hwn yn amlwg yn Sefydliad Catalysis Caerdydd ac wrth i ni gymryd rhan yn y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Catalysis. Dyma'r ail dro i ymchwilydd benywaidd ifanc o Ysgol Cemeg Caerdydd dderbyn y wobr hon. Enillodd Dr Jennifer Edwards y wobr yn 2013."

Cafodd Gwobr Clara Immerwahr ei henwi ar ôl ymchwilydd ifanc talentog iawn, a'r fenyw gyntaf i ennill gradd doethuriaeth mewn cemeg ffisegol mewn prifysgol yn yr Almaen.

Bydd Dr Melen yn cael ei hanrhydeddu yn ystod seremoni gyhoeddus ym mis Chwefror 2016, a fydd hefyd yn cynnwys darlith wadd gan y gwyddonydd benywaidd byd-enwog, yr Athro Dr Katharina Al-Shamery. 

Enillodd Dr Melen wobr Ymchwilydd Ifanc Dalton RSC yn 2013 hefyd, a Gwobr Ymchwilydd Ifanc Ewrop yn 2014.

Rhannu’r stori hon