Ewch i’r prif gynnwys

Dilyn eich trwyn drwy hanes

23 Medi 2019

Llyfr newydd hanesydd yn archwilio hanes llawdriniaeth drwynol

Mae’r llyfr newydd gan yr hanesydd Dr Emily Cock yn olrhain gwybodaeth am rinoplasti yng nghymuned feddygol fodern gynnar Prydain, hyd at ei effaith ar adfywiad llawdriniaethau fflap croen i’r wyneb y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae Rhinoplasty and the nose in early modern British medicine and culture yn archwilio pam oedd y llawdriniaeth drwynol mor ddadleuol, a phwysigrwydd diwylliannol y trwyn, gan gynnig darlleniadau beirniadol o drwynau llenyddol o Shakespeare i Laurence Sterne.

Ynghyd â gwybodaeth feddygol am y llawdriniaeth impiad roedd stori ffug y byddai'r trwyn yn cael ei adeiladu o gnawd a brynwyd o bobl israddol yn y gymdeithas ac y byddai'n disgyn i ffwrdd pan fyddai'r person hwnnw'n marw. Mae’r gyfrol felly’n archwilio’r naratif hwn yn fanwl am ei rôl yn stigmateiddio'r weithdrefn, ei hymgysylltiad ag athrawiaeth cydymdeimlad meddygol, a'i hymgais unigryw i drin cnawd dynol byw fel nwydd.

Ychwanegodd y Mae’r Cymrawd Ymchwil Dr Cock: “Yn ogystal ag olrhain llyfrau llawfeddygol perthnasol i ddangos na ddiflannodd y wybodaeth am y dechneg rhinoplasti, y peth diddorol oedd cloddio i’r rhesymau pam oedd y llawdriniaeth yn ddadleuol, a pham y daeth y chwedlau amdani yn fwy amlwg. Mae'n astudiaeth achos wych ar gyfer dangos sut mae’r gymdeithas y mae'n gweithredu ynddi yn cael effaith ar feddygaeth, ac mae'n rhaid iddi ddelio â'i rhagfarnau, ei chamsyniadau a'i anghydbwysedd o ran pŵer, yn ogystal â chyd-ddigwyddiadau rhwng digwyddiadau ac unigolion.”

Mae Dr Emily Cock yn gyd-olygydd Approaches to facial difference: past and present. ac yn Gymrawd Ymchwil Leverhulme ar ddechrau ei gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer y prosiect tair blynedd Fragile Faces: Disfigurement in Britain and its Colonies (1600–1850). Mae Fragile Faces yn archwilio bygythiad, profiad a chynrychiolaeth anffurfiad yr wyneb ym Mhrydain a'i threfedigaethau yn Virginia, Massachusetts ac Awstralia rhwng 1600 a 1850.

Mae Dr Emily Cock yn un o’r deg sy’n rhan o gynllun Cenhedlaeth Newydd o Feddylwyr eleni, ac mae hi’n cymryd rhan yng Ngŵyl Bod yn Ddynol 2019 ym mis Tachwedd.

Cyhoeddir Rhinoplasty and the nose in early modern British medicine and culture gan Manchester University Press.

Rhannu’r stori hon