Ewch i’r prif gynnwys

Yn ailgynnau angerdd am wleidyddiaeth!

4 Medi 2019

Ydych chi’n meddwl am ddychwelyd i addysg ar ôl cael seibiant? Os ydych chi dros 18 oed ac mae gennych ddiddordeb brwd mewn gwleidyddiaeth Cymru, y DU a’r byd, efallai yr hoffech chi ddilyn ein Llwybr Gradd Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Mae’r llwybr hwn, sy’n cael ei addysgu yn ystod amser cinio a gyda’r nos, yn cyfateb i 50% o flwyddyn gyntaf gradd a’r bwriad yw rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i raglen cysylltiadau rhyngwladol a gwleidyddiaeth y Brifysgol (BSc ECON).

Bydd y rhaglen llwybr hon yn rhoi’r cyfle i chi ymgysylltu â gwleidyddiaeth gyfoes a myfyrio ar benderfyniadau gwleidyddol sy’n effeithio ar fywydau pobl, wrth iddynt ddigwydd.  Ar hyn o bryd, mae modiwlau ar y cwrs yn cynnwys Cyflwyniad i Gysylltiadau Rhyngwladol, System Gyfreithiol Lloegr a Chyfraith Ewrop a 1989: Blwyddyn Hollbwysig i Ewrop, a fydd yn cynnig sylfaen gwybodaeth gadarn ar gyfer dechrau gradd.

Ein myfyrwyr yw ein heiriolwyr mwyaf ar gyfer y rhaglen ac maent yn awyddus i rannu eu profiadau o’r llwybr.  Graddiodd Simba Chabarika (yn y llun) o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn 2019.  Dechreuodd ei radd ar ôl cwblhau rhaglen y llwybr.

“Rwy’n hynod ddiolchgar i’r llwybr ac yn enwedig i Jan Stephens am ei chyngor, ei chefnogaeth a’i hanogaeth, ac wrth gwrs, i’r tîm bendigedig o diwtoriaid wnaeth ein paratoi ar gyfer yn hyn oedd i ddod ar y cwrs gradd!”

Mae’r cwrs llwybr yn ysbrydoliaeth fawr i’r rheini sydd am fynd â’u haddysg ymhellach. Ni feddyliais erioed y gallwn gyflawni’r fath lwyddiant, tan i’r cwrs ddatgelu fy mhotensial go iawn i mi!”

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod rhagor am y llwybr at radd mewn gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol, dewch i’n Diwrnod Agored nesaf sy’n cael ei gynnal ddydd Mercher 11 Medi 2019.

Rhannu’r stori hon