Ewch i’r prif gynnwys

Eglwys Gadeiriol Wells yn croesawu Athrawon y Gyfraith a Chrefydd ar gyfer Darlith Bekynton

27 Awst 2019

Llun o’r Athro Norman Doe a’r Athro Mark Hill (canol) gyda Christopher Jones (cyfreithiwr, Harris and Harris, a raddiodd yn y gyfraith yng Nghaerdydd), a’r Gwir Barchedig Dr John Davies, Deon Eglwys Gadeiriol Wells
Llun o’r Athro Norman Doe a’r Athro Mark Hill (canol) gyda Christopher Jones (cyfreithiwr, Harris and Harris, a raddiodd yn y gyfraith yng Nghaerdydd), a’r Gwir Barchedig Dr John Davies, Deon Eglwys Gadeiriol Wells

Fis Gorffennaf, cyflwynodd Mark Hill, CF, Athro Anrhydeddus yng Nghaerdydd ac aelod o Ganolfan y Gyfraith a Chrefydd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, yr ail yn y gyfres o Ddarlithoedd Bekynton ar y Gyfraith a Chrefydd yn Eglwys Gadeiriol Wells.

Siaradodd yr Athro Hill am Gyfraith Eglwysig fel rhan o Wasanaeth yr Eglwys. Cafwyd dadansoddiad meistrolgar ganddo ynghylch rôl y Gyfraith ym mywyd Eglwys Lloegr a siaradodd am werth y Principles of Canon Law Common to the Churches of the Anglican Communion (2008), ac arwyddocâd y Statement of Principles of Christian Law (Rhufain, 2016), dogfen a grëwyd gan banel eciwmenaidd o gyfreithwyr a diwinyddion i feithrin undod cynyddol weladwy ymysg Cristnogion ledled y byd.

Yn yr Hwyrol Weddi Gorawl, cyn y ddarlith, traddododd yr Athro Norman Doe – Cyfarwyddwr Canolfan y Gyfraith a Chrefydd – bregeth ar Richard Hooker (1554–1600), awdur y traethodau dylanwadol, The Law of Ecclesiastical Polity, y traethodau ôl-Ddiwygiad cyntaf ar gyfraith eglwysig sylweddol Lloegr yn ei chyd-destun diwinyddol a gwleidyddol. Yr Athro Doe oedd y person cyntaf i gyflwyno Darlith Bekynton yn 2017 pan siaradodd am bensaernïaeth gyfreithiol eglwysi cadeiriol Lloegr.

Mae Darlith Bekynton, a gynhelir bob dwy flynedd, yn gydweithrediad rhwng Eglwys Gadeiriol Wells, Cyfreithwyr Harris a Harris (Wells) a Chanolfan y Gyfraith a Chrefydd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.  Roedd Thomas Bekynton (1390–1465) yn gweithio ym meysydd y Gyfraith a chrefydd ac yn gyfreithiwr eglwysig nodedig, Deon Llys Arches (1423) ac Esgob Caerfaddon a Wells (1443).

Rhannu’r stori hon