Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwraig Peirianneg Fecanyddol Lauren Shea yn derbyn gwobr yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

26 Gorffennaf 2019

Lauren presenting to an audience.

Mae myfyrwraig Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Caerdydd, Lauren Shea, wedi ennill Medal Ymerodraeth Prydain am ei gwasanaethau dros hyrwyddo Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ymhlith Pobl Ifainc.

Fe wnaeth Lauren, sydd newydd gwblhau blwyddyn gyntaf ei gradd peirianneg, dderbyn y wobr yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am ei rôl yn hyrwyddo gwyddoniaeth, mathemateg, a pheirianneg ymhlith pobl ifainc.

Bu Lauren ynghlwm wrth TeenTech, sefydliad sy’n helpu pobl ifainc i ddeall y cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiannau gwyddoniaeth, technoleg, a pheirianneg, pan oedd hi’n ddisgybl ysgol 14 oed. Mae hi’n dal i ysbrydoli pobl ifainc, ac yn gweithio gyda TeenTech ar brosiectau megis y Folkestone School for Girls.

Tra oedd hi eto yn yr ysgol, gweithiodd Lauren gyda phlant o 3 i 18 oed, gan eu hysbrydoli i ymddiddori mewn pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, a mathemateg (STEM). Fe wnaeth hi hefyd fentora myfyrwyr ar draws Hwngari, y Ffindir, a Sbaen yng Ngwobrau TeenTech, ochr yn ochr â’i ffrind Lucy, ac yn 2016, enillasant wobr agoriadol BBC Radio 1 Make It Digital Teen Award am y prosiect hwnnw.

Roedd Lauren yn ysgolhaig Arkwright ac yn 2017, fe’i henwyd yn un o’r prif fenywod ym maes Peirianneg o dan 35 oed. Ar y pryd, hi oedd yr unig ferch ysgol ar y rhestr.

Roedd Lauren hefyd yn Llysgennad Rhyngwladol cyntaf TeenTech, ac fe gyflwynwyd iddi TeenTech Gold Award gan eu noddwr, Ei Uchelder Brenhinol Dug Efrog, KG, ym Mhalas Buckingham yn 2017.

Ar ôl ymgymryd â phrofiad gwaith yn Labordy Gwyddoniaeth y Gofod Mullard, datblygodd Lauren ei deunyddiau dosbarthiadau gofod ei hunan er mwyn cynnal gweithdy ar gyfer plant oedran ysgol gynradd lleol.

Pan glywodd iddi ennill gwobr Medal Ymerodraeth Prydain, dywedodd Lauren: “Fe’m gorlethwyd. Roedd yn deimlad anhygoel, cael cydnabyddiaeth am wneud rhywbeth nad yw’n teimlo fel llafurwaith o gwbl i mi.”

Ei chyngor ar gyfer pobl ifainc yw: cymerwch ran mewn prosiectau STEM hwyl a gweithgareddau allgyrsiol.

Meddai: “Ni sylweddolais y byddwn â diddordeb mewn peirianneg o gwbl hyd nes imi ddechrau ymwneud â TeenTech.”

Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, Yr Athro Sam Evans: Hoffem longyfarch Lauren ar ei gwobr ac ar y gwaith mae hi’n ei wneud i ddangos pa mor gyffrous y gall astudio pynciau STEM fod. Mae’n bwysig iawn ein bod yn ysbrydoli pobl ifainc ynghylch gwyddoniaeth a pheirianneg mor gynnar â phosib, ac rydym yn falch bod un o’n myfyrwyr yn gwneud cymaint o wahaniaeth.”

Rhannu’r stori hon