Ewch i’r prif gynnwys

Sefydliad Wolfson yn ariannu cyfres o ystafelloedd Dilysu Targedau newydd

9 Gorffennaf 2019

Researcher works under fume hood with chemicals

Bydd chwarter y boblogaeth yn profi problemau iechyd meddwl yn ystod eu hoes, a bydd labordy arloesol yn dod â meddyginiaethau iechyd meddwl newydd a gwell gam yn nes at realiti.

Mae Prifysgol Wolfson wedi dyrannu £500,000 i Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd i ariannu cyfres o Labordai Dilysu Targedau o’r radd flaenaf, a fydd yn helpu ymchwilwyr i ddarganfod therapïau newydd ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl a niwrolegol.

Dywedodd yr Athro Simon Ward, Cyfarwyddwr y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau: “Rhyddhawyd y don fawr ddiwethaf o feddyginiaethau ar gyfer anhwylderau seiciatrig, megis Prozac, ar ddiwedd y 1980au a 1990au.

“Ers hynny, mae llai wedi’i fuddsoddi i ddatblygu therapïau gwell a rhai newydd ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl, gan leihau faint o gyffuriau a ddatblygir yn y maes hwn dros 70%, er bod yr opsiynau therapiwtig presennol yn araf yn gweithredu ac yn achosi sgîl-effeithiau sylweddol. Oherwydd hyn, prin yw’r opsiynau sydd ar ôl i bobl sy’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl, a dyma faes o angen meddygol clir, nad yw’n cael ei ddiwallu.

“Er bod llai o gyffuriau newydd ar gyfer iechyd meddwl yn cael eu datblygu, mae ein gwybodaeth am fecanweithiau’r cyflyrau hyn wedi gwella’n sylweddol – mae nifer o’r darganfyddiadau ynghylch niwrowyddoniaeth, afiechydon niwroddirywiol ac iechyd meddwl yn dod o Brifysgol Caerdydd.

“Mae angen i ni allu defnyddio offer a fydd yn ein galluogi ni i gyflwyno’r pethau sy’n cael eu darganfod yn y labordai i gleifion.”

Dyrannwyd hanner miliwn o bunnoedd gan Sefydliad Wolfson i ariannu offer yn y Sefydliad, a fydd yn galluogi’r gwyddonwyr i lenwi’r bwlch rhwng allbynnau ymchwil biofeddygol arloesol a therapïau newydd mewn clinigau.

Bydd y gyfres o Labordai Dilysu Targedau yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau yn cynnig y cyfleusterau angenrheidiol i ymchwilio i dargedau biolegol newydd o ddiddordeb, gan alluogi ymchwilwyr i brofi cyfansoddion cemegol i ddod o hyd i feddyginiaethau newydd.

“Byddwn yn defnyddio’r arbenigedd ymchwil sydd wedi adnabod genynnau a phroteinau newydd sy'n gysylltiedig â'r cyflyrau meddygol ac yn datblygu cyfansoddion a all eu targedu, gan archwilio sut maent yn rhyngweithio i werthuso eu potensial fel therapïau newydd.

“Bydd gan y gyfres o Labordai Dilysu Targedau hyn, a ariennir gan Sefydliad Wolfson, ran ganolog yn ein hymchwil ni, sydd yn y pen draw yn ceisio cael effaith wirioneddol ar fywydau cleifion ledled y byd, drwy ddarganfod meddyginiaethau newydd ac effeithiol,” ychwanegodd yr Athro Ward.

Rhannu’r stori hon