Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr Cymdeithas y Gyfraith i uwch-ddarlithydd

28 Mai 2019

Cyhoeddodd Cymdeithas y Gyfraith Caerdydd a'r Ardal mai David Dixon, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd yw enillydd Gwobr Goffa Simon Mumford 2019.

Sefydlwyd y wobr uchel ei bri yn 2015, ac fe'i cyflwynir yn flynyddol i gyfreithiwr sy'n gweithio neu'n byw (neu sydd wedi gwneud) yn ardal De Cymru Cymdeithas y Gyfraith. Fe'i rhoddir i gydnabod cyfraniad yr enillydd i'r Gyfraith a phroffesiwn y gyfraith.

Mae David, sydd wedi addysgu ar y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) ym Mhrifysgol Caerdydd ers 1993, yn aelod gwerthfawr, uchel ei barch, o gymuned gyfreithiol Caerdydd. Mae gan gydweithwyr, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr feddwl mawr ohono, ac mae ganddo hanes hir o gyflawni ac eiriolaeth.

Mewn ymateb i'r newyddion am lwyddiant David, dywedodd Arweinydd y Cwrs LPC, Byron Jones: "Mae David wedi bod yn was gwych i broffesiwn y gyfraith yn genedlaethol ac yn lleol dros lawer o flynyddoedd. Fe'i hetholwyd dair gwaith yn aelod o Gyngor Cymdeithas y Gyfraith dros dde Cymru, gan wasanaethu gydag anrhydedd am 12 mlynedd tan 2018. Mae hefyd wedi eistedd ar nifer o bwyllgorau Cymdeithas y Gyfraith gan gynnwys Pwyllgor Cymru (fel Cadeirydd rhwng 2010 a 2014), y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant a'r Pwyllgor Tai.

"Yn ogystal â'i waith addysgu parhaus, mae David yn parhau'n weithredol y tu hwnt i'r ddarlithfa ac wedi gwneud llawer o waith yn hyrwyddo Cymru yng Nghymdeithas y Gyfraith yn Llundain - gan helpu i sicrhau enwi ystafell David Lloyd George yn y pencadlys - a hyrwyddo materion Cymru yn ehangach."

I gloi, ychwanegodd Byron: "Mae llwyddiannau David yn helaeth. Mae felly'n addas iawn ei fod yn derbyn yr anrhydedd pwysig hwn ac yn cael ei ddathlu am ei waith caled, ei ymrwymiad a'i ymroddiad i'r Gyfraith ac ymarfer y gyfraith. Roedd yn galonogol gweld yr hoffter diffuant sydd gan y gymuned gyfreithiol yng Nghaerdydd ohono yn y seremoni wobrwyo yn gynt y mis hwn. Fel Ysgol, hoffem ddiolch iddo am ei gyfraniadau a'i longyfarch ar y wobr hon."

Cyn ymuno â Choleg y Brifysgol (Caerdydd) fel yr oedd ar y pryd yn 1993, treuliodd David dros ddegawd mewn practis preifat a llywodraeth leol. Dros yn agos i 27 o flynyddoedd o addysgu, mae wedi helpu i hyfforddi miloedd o fyfyrwyr a does dim golwg ei fod am leihau ei lwyth gwaith. Mae'n parhau i arwain y cwrs gorfodol mewn Ymgyfreitha a'r cwrs dewisol mewn Ymgyfreitha Masnachol ar yr LPC, a Chyfraith Gyhoeddus ar y Diploma Graddedig yn y Gyfraith.

Rhannu’r stori hon