Ewch i’r prif gynnwys

Llwybrau Gradd yn derbyn cydnabyddiaeth

22 Mai 2019

Pathways award
Pathways to a Degree programme award.

Rydym wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol am ein rhaglen Llwybrau Gradd, sef ffordd amgen o astudio gradd heb unrhyw gymwysterau ffurfiol. Dyma ragor o wybodaeth am sut mae dwy ran o dair o garfan y llynedd yn astudio am radd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fe enillon ni wobr ryngwladol yn y categori cynaliadwyedd gan Gymdeithas y Prifysgolion ar gyfer Dysgu Gydol Oes fis diwethaf.

Mae'r categori cynaliadwyedd yn cydnabod mentrau creadigol Dysgu Gydol Oes gydag effaith a chynaliadwyedd profedig. Fe wnaethom ennill y wobr ar y cyd â Phrifysgol Ryerson, Toronto.

Mae ein rhaglen Llwybrau Gradd yn ddewis amgen i Safon Uwch a chymwysterau mynediad gan ei bod yn cael ei haddysgu a'i hasesu mewn ffyrdd tebyg i gyrsiau israddedig blwyddyn gyntaf. Dysgir pob llwybr yn rhan-amser gyda'r nos ac ar benwythnosau ac yn y rhan fwyaf o achosion nid oes angen cymwysterau blaenorol ar fyfyrwyr i ddechrau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr nad ydynt efallai wedi cael addysg ffurfiol ers sawl blwyddyn, a does dim angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ar nifer o'n llwybrau.

Eleni cynigiwyd Llwybrau Gradd mewn:

  • Rheoli Busnes a Chyfrifeg
  • Saesneg Iaith, Llenyddiaeth ac Athroniaeth
  • Gofal Iechyd
  • Hanes, Hanes yr Henfyd, Archaeoleg a Chrefydd
  • Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol
  • Ffarmacoleg Feddygol
  • Ieithoedd Modern a Chyfieithu
  • Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
  • Gwyddorau Cymdeithasol.

Cwblhaodd 62 o fyfyrwyr Lwybr Gradd 60 credyd yn 2017/18 ac o'r garfan hon yn 2018/19:

  • Mae 40 o fyfyrwyr bellach wedi dechrau eu graddau ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Mae 10 wedi dewis astudio mewn prifysgolion eraill yn ne Cymru.

Mae Llwybrau Gradd yn cael eu rhedeg gan y tîm Addysg Barhaus a Phroffesiynol

Dyma farn ein myfyrwyr:

‘Mae Llwybr Gofal Iechyd wedi fy nghymhwyso i gynyddu fy ngallu academaidd ac rwyf hefyd wedi adennill fy hunanhyder, a byddaf yn ddiolchgar am hynny am byth. Mae'r cwrs hwn wirioneddol wedi newid fy mywyd, ac mae fy mreuddwyd o fod yn fydwraig, a oedd unwaith yn freuddwyd gwrach, bellach yn dod yn realiti.’

(Myfyriwr Bydwreigiaeth Bmid, 2018)

‘Cyn dechrau Archwilio'r Gorffennol, nid oeddwn wedi gweithio am chwe blynedd, ers genedigaeth fy mhlentyn ieuengaf. Roedd fy ngyrfa wedi’i roi o’r neilltu ac roeddwn i'n canolbwyntio ar fy nheulu, ond roeddwn yn sownd mewn rhigol. Nawr rydw i ym mlwyddyn olaf fy ngradd, yn gwneud cais am TAR mewn addysg uwchradd ac rwy'n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn ysgol uwchradd. Mae'r cwrs wedi fy helpu i ddilyn gyrfa mewn addysg, rhywbeth rydw i wastad wedi bod eisiau ei wneud.’

(Myfyriwr, BA Hanes Hynafol ac Archaeoleg, 2018)

Ehangu cyfranogiad i Lwybrau Gradd

Rydym hefyd wedi datblygu nifer o gyrsiau rhad ac am ddim, ‘Byw’n Lleol; Dysgu’n Lleol’, i gynnig dilyniant i Lwybrau Gradd. Datblygwyd y rhain yn rhan o'n rhaglen ehangu cyfranogiad mewn cydweithrediad â sefydliadau cymunedol lleol, ac maent wedi'u lleoli mewn ardaloedd cyfranogiad isel. Mae'r cyrsiau hyn wedi helpu myfyrwyr i symud ymlaen i raddau mewn Cyfrifeg, Rheolaeth Busnes a Gwyddorau Cymdeithasol.

Rhagor o wybodaeth am Lwybrau Gradd

Rhannu’r stori hon