Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr meddygol yn arddangos eu doniau creadigol yng Nghystadleuaeth Gwaith Celf C21, mewn cydweithrediad â’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

15 Ebrill 2019

C21 artwork collage

Mae Cystadleuaeth Gwaith Celf Myfyrwyr C21 yn gyfle blynyddol i fyfyrwyr meddygol gofleidio’u doniau artistig a’u gallu creadigol.

Ar gyfer cystadleuaeth 2018/19, cawsom y fraint o gydweithio â’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, fel rhan o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau oedd yn troi o gwmpas arddangosfa ‘Leonardo da Vinci: A Life in Drawing’.  

I nodi 500 mlwyddiant marwolaeth Leonardo da Vinci, mae’r Amgueddfa Genedlaethol yn arddangos deuddeg o’u ddarluniau gorau, fel rhan o #Leonardo500 – dathliad cenedlaethol lle bydd 12 arddangosfa’n cael eu cynnal yr un pryd ar draws y Deyrnas Unedig rhwng 01/02/19 ac 06/05/19. Roedd Da Vinci yn artist ac yn wyddonydd, ac yn cael ei swyno’n arbennig gan anatomeg y corff dynol, felly roedd cyfuno Cystadleuaeth C21 â’r cyfle unigryw hwn yn bartneriaeth berffaith,  

Tasg y myfyrwyr oedd dangos cysylltiad â Leonardo da Vinci, ochr yn ochr â chyfleu elfennau o’r cwrs C21 a’u profiadau meddygaeth yn weledol.  Daeth 17 ymgais wych i law, ac roedd y myfyrwyr yn arddangos ystod o ddoniau, pob un ohonynt yn cyflwyno’r brîff o bersbectif unigryw.

Daeth ein beirniaid, oedd â’r ddyletswydd anodd o benderfynu pa gynigion fyddai’n derbyn y gwobrau o fri ar gyfer y 1af, yr 2il a’r 3ydd, i ymuno â ni o’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd; Uwch-Guradur Celf Hanesyddol, Anne Pritchard a’r Uwch-Swyddog Dysgu, Cyfranogiad a Dehongli, Ciara Hand.    Wedi cymryd i ystyriaeth ddehongliadau myfyrwyr o’r brîff, ochr yn ochr â gweld arddangosiadau neilltuol o ddoniau a sgiliau, penderfynwyd ar yr enillwyr.

Cyntaf: 'Hands of Awe' - Firdusi Khan, blwyddyn 2

Hands of Awe
'Hands of Awe' - Firdusi Khan, year 2

Ail: ‘21st Century Anatomy’ - Katy Plant, blwyddyn 4

21st Century Anatomy
'21st Century Anatomy' - Katy Plant, year 4

Trydydd: ‘Love Brings Life’ - Claire-Marie Hughes, blwyddyn 5

Love Brings Life
'Love Brings Life' - Claire-Marie Hughes, year 5

Bydd y gwaith celf C21 yn cael ei arddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd rhwng 12:00 a 16:00 dydd Sadwrn 27 a dydd Sul 28 o Ebrill.  Bydd y digwyddiad di-dâl hwn, ‘Leonardo, Bodies & Bones’, yn gyfle i ymwelwyr ddysgu sut cafodd gwaith creadigol y myfyrwyr hyn ei ysbrydoli gan eu profiad o feddygaeth a’u diddordeb mewn anatomeg ddynol

Gwnewch yn fawr o’r cyfle i ymweld â’r arddangosfa eithriadol hon, a dewch draw i’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ar y penwythnos dan sylw i weld ein myfyrwyr a’r hyn maen nhw wedi’i greu, Bydd plant neu oedolion yn cael cyfle i lunio’u sgerbydau eu hunain, a bydd ein myfyrwyr-artistiaid wrth law i roi cyngor a chymorth.

Find out more about this event.

Rhannu’r stori hon