Arbenigwr rhandiroedd a gerddi cymunedol yn annerch y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig
12 Ebrill 2019
Bu Dr Hannah Pitt, Cymrawd Ymchwil Sêr Cymru II yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, yn trafod manteision a heriau rhandiroedd a gerddi cymunedol gerbron Pwyllgor Cynulliad Cymru dros Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ddydd Mercher 3 Ebrill 2019.
Dr Pitt yw arweinydd y prosiect “Deall sut i Dyfu: Cynyddu gwydnwch sgiliau cynhyrchu bwyd sy’n deillio o blanhigion”. Nod yr ymchwil, a gefnogir gan raglen Sêr Cymru II ac sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Brifysgol Caerdydd a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yw gwella gwydnwch gwybodaeth a sgiliau systemau bwyd-amaeth drwy lywio polisïau, theorïau ac arferion.
Wrth drafod gerbron y Pwyllgor, roedd Dr Pitt yn awyddus i bwysleisio’r manteision posibl o ran addysg, iechyd a bioamrywiaeth a phwysigrwydd cefnogaeth parhaus ar ffurf deddfau er budd tyfu cymunedol a rhandiroedd yng Nghymru.
Dywedodd Dr Pitt: “Mae rhai pethau allweddol y mae angen bwrw golwg arnynt, yn enwedig effaith llymder ar gymunedau a mentrau cymunedol. Mae ansicrwydd bwyd yn broblem, sy’n gysylltiedig â’r pwnc hwn. Ceir heriau newydd, ond cyfleoedd newydd hefyd. Un cyfle posibl yw’r polisi amaethyddol ar ôl Brexit; beth fydd yn digwydd i’r cynllun ffioedd datblygu amaethyddol, sydd wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi twf cymunedol yn y gorffennol.”
Pan ofynnwyd am argymhellion ar sut y gellir cael gafael ar diroedd ar gyfer rhandiroedd neu grwpiau cymunedol, ychwanegodd Dr Pitt: “Y cam cyntaf yw ymarfer mapio fel bod modd deall y sefyllfa bresennol yn well. Mae rôl ddefnyddiol ar gyfer partneriaeth gyda’r trydydd sector. Nid mater o wybod bod safle ar gael a gallu mynd i’r afael ef; ond hefyd sut i fynd drwy’r broses honno.”
Mae gan Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy enw da yn rhyngwladol am gynnal ymchwil berthnasol a chadarn a ddefnyddir gan wneuthurwyr polisïau ar draws Cymru, y DU ac ymhellach, i gefnogi arferion llunio polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae trawsgrifiad llawn o’r sesiwn i’w gael ar-lein.