Ewch i’r prif gynnwys

Yr Ysgol Cemeg yn gwahodd gwyddonwyr ysbrydoledig i noswaith STEM

27 Mawrth 2019

Professor Lord Robert Winston lecture

Roedd Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd yn falch o gynnal digwyddiad agoriadol cymdeithas STEM Ysgol y Gadeirlan ddydd Mawrth, 12 Mawrth.

Trefnwyd y digwyddiad gan fyfyrwyr Blwyddyn 13 Ysgol y Gadeirlan a phwyllgor y gymuned STEM. Gwahoddwyd yr Athro Arglwydd Robert Winston, Coleg Imperial Llundain, Huw James, gwyddonydd ac anturiaethwr, a Dr Anna Horleston, gwyddonydd cenhadaeth NASA i ddarlithio i gynulleidfa o dros 200 o ddisgyblion ysgol ac athrawon o ardal de Cymru.

Athro Gwyddoniaeth a Chymdeithas ac Athro Cymdeithas ac Emeritws Astudiaethau Ffrwythlondeb yng Ngholeg Imperial Llundain yw’r prif siaradwr, yr Arglwydd Robert Winston. Mae’n arweinydd yn ei faes ac wedi gwneud llawer o ddarganfyddiadau pwysig. Mae'n gadeirydd Ymddiriedolaeth Ymchwil Genesis; elusen sy'n ariannu ymchwil o safon i iechyd menywod a babanod.

Roedd yn gyfle gwych i fyfyrwyr ifanc ddysgu mwy am faes STEM gan y rhai sydd ar flaen y gad yn eu harbenigeddau. Trafododd y gwyddonwyr faterion cyfoes megis y newid yn yr hinsawdd, yr heriau o symud i'r blaned Mawrth a phwysigrwydd hapusrwydd a lles fel modd o fesur datblygiad gwyddonol.

Cefnogwyd y digwyddiad gan ffair allgymorth gydag arddangosiadau gan Ysgolion Cemeg, Cyfrifiadureg a Gwybodeg, Fferylliaeth ac Astudiaethau Fferyllol, a Biowyddorau Prifysgol Caerdydd ynghyd ag Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinwe Caerdydd.

Ar ôl y darlithoedd, cymerodd y tri siaradwr ran mewn sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa, a gwelwyd bod y disgyblion yn angerddol iawn ac yn meddu ar ddealltwriaeth eang o bwysigrwydd STEM.

Rhannu’r stori hon