Ewch i’r prif gynnwys

Noson o hwyl niwrowyddoniaeth i Sgowtiaid lleol

22 Chwefror 2019

jenga scouts
Scouts enjoying the Giant Jenga Challenge developed by Emma Dalton.

Bu cyw wyddonwyr yn mwynhau ystod lawn o weithgareddau ymgysylltu gwyddoniaeth yn y Noson Sgowtiaid ym mis Ionawr. Roedd y rhain yn cynnwys domau ymennydd aer, modelu niwron a theithiau tywys i weld sganiwr MRI.

Ymunodd deugain o blant o grŵp Cybiau a Sgowtiaid Llaneirwg ag ymchwilwyr niwrowyddoniaeth yn Adeilad Hadyn Ellis Prifysgol Caerdydd ddydd Gwener 8 Chwefror am noswaith o hwyl yn ymwneud â'r ymennydd.

model a neuron scouts
STEM Ambassadors show Scouts how to model a neuron out of multicolored pipe cleaners.

Yn ystod y digwyddiad, a gynhaliwyd gan Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMHRI), rhoddodd y Cybiau a’r Sgowtiaid eu sgiliau ar waith wrth iddynt ymgymryd â heriau gwyddoniaeth. Roedd y gemau'n cynnwys gweithgareddau poblogaidd gemau blynyddol yr ymennydd fel Jenga Anferth yr Ymennydd a Rasio Stroop.

A highlight of the evening for many, was the tour of CUBRIC’s mock MRI scanner. CUBRIC Kids did a fantastic job of making the Uchafbwynt y noson i lawer oedd y daith dywys i weld sganiwr ffug MRI CUBRIC. Llwyddodd CUBRIC Kids i wneud profiad plant o gael sgan MRI yn un cyffrous iawn drwy gynnig cyfle iddynt gymryd rhan yn eu hastudiaeth a chael mynd â llun o'u hymennydd gartref.

CUBRIC kids
Mock MRI scan experience with CUBRIC Kids.

Dywedodd Ceri Allen, arweinydd y Sgowtiaid: “Fe fwynhaodd y sgowtiaid y gweithgareddau a'r heriau. Roedd y daith o amgylch CUBRIC yn llwyddiant. Nid wyf yn credu bod llawer ohonom wedi gweld MRI o’r blaen, ac mae’n gyfarpar a wnaeth gryn argraff".


Daeth y noson i ben wrth gyflwyno gwobr i'r rasiwr stroop cyflymaf, a chafodd pawb fagiau o nwyddau oedd yn cynnwys anrhegion, tystysgrifau, melysion yr ymennydd a chyfarwyddiadau ar gyfer gweithgaredd i dynnu DNA o lysiau pys yn y cartref.

animal brains scouts
Identifying animal brains with STEM Ambassadors.
scouts night goggles
Trying to play catch wearing Prism goggles which invert the image that you see.

Hoffem ddiolch yn arbennig i Promega am roi’r anrhegion. Rhaid 'diolch' yn bennaf i'n tîm gwych o wirfoddolwyr, a roddodd o’u hamser ar nos Wener i gyflwyno'r gweithgareddau hyn mewn ffordd wych ac addysgu'r genhedlaeth nesaf o niwrowyddonwyr.

Rhannu’r stori hon