Ewch i’r prif gynnwys

Galw rhyngwladol am arbenigedd Cadwraeth

18 Chwefror 2019

Jane Henderson in Myanmar

Arbenigwyr o Gaerdydd yn cyflwyno hyfforddiant arbenigol

Mae'r arbenigedd sy'n eiddo i arbenigwr Cadwraeth blaenllaw wedi'i geisio ar gyfer prosiect hyfforddi rhyngwladol.

Mae Jane Henderson, sy'n Ddarllenydd mewn Cadwraeth yng Nghaerdydd, wedi dyfeisio hyfforddiant ataliol mewn cadwraeth er budd y rheini sy'n gweithio mewn amgueddfeydd ym Myanmar mewn prosiect arbennig a gyllidir gan y Cyngor Prydeinig.

Arweiniodd yr ymarferydd profiadol sesiynau gyda'r cyn-fyfyriwr Gofal Casgliadau Amy Crossman o'r Amgueddfa Rhyfel Imperialaidd dros gyfnod o wythnos yn Amgueddfa Genedlaethol Yangon ym mis Ionawr.

Rhaglen gan y Cyngor Prydeinig yw Academi Amgueddfa Ryngwladol Myanmar, sydd wedi'i datblygu i gynyddu capasiti sector amgueddfeydd Myanmar drwy ymchwil, datblygu proffesiynol parhaus, eiriolaeth a thrafodaethau polisi.

Roedd yr hyfforddiant Cadwraeth Ataliol yn cyfuno damcaniaeth ac ymarfer gorau o ran glanhau, trin a thrafod, lleithder cymharol, rheoli golau, pacio a symud. Gyda throsglwyddo gwybodaeth yn elfen allweddol o'r prosiect, defnyddiwyd hyfforddiant amlapio i alluogi cyfranogwyr i gynyddu eu hyder a'u sgiliau i raeadru'r ffrwd o wybodaeth yn ehangach dros y misoedd nesaf.

Mynychodd cynrychiolwyr o bob rhan o'r wlad, a elwid yn Burma yn flaenorol, y cwrs dros bum diwrnod.

Mae'r ymarferwr cadwraeth a berchir yn rhyngwladol Jane Henderson (FIIC, PACR, FHEA, MSc, BSc) wedi addysgu ar raglenni Cadwraeth israddedig ac ôl-raddedig yng Nghaerdydd ers 1984.

Drwy gydol ei gyrfa yn y sector treftadaeth a'r byd academaidd, mae Jane wedi gwasanaethu ar amryw o gyrff cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys ar gyfer y Sefydliad Cadwraeth (ICON) a nifer o amgueddfeydd ac orielau yng Nghymru a thu hwnt.

Ym mis Chwefror bydd yn cyflwyno'r brif araith From the Past to the Future (did we miss anything): The Rise of Risk Assessment yng Nghynhadledd Cadwraeth Awstralia 2019 Managing Risks to Collections, ochr yn ochr â chyn-fyfyriwr arall o Gaerdydd, Joel Taylor, Uwch Arbenigwr Prosiect yn Sefydliad Cadwraeth Betty.

Dywedodd: "Mae'r tasgau mae cadwraethwyr Myanmar yn eu hwynebu'n debyg i'r rheini sy'n wynebu cadwraethwyr ar draws y byd, ond mae'r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw'n wahanol iawn. Mae addysgu yno'n fy atgoffa pa mor ffodus ydym ni gyda'r offer sydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn fy herio i feddwl a allem ni weithredu'n fwy cynaliadwy fel proffesiwn."

Y Cyngor Prydeinig yw corff rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol.

Mae'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn cynnig graddau ar bob lefel ym maes Cadwraeth, o lefel israddedig (BSc Cadwraeth Gwrthrychau mewn Amgueddfeydd ac Archaeoleg) i lefel ôl-raddedig, gan gynnwys MPhil a PhD.

Rhannu’r stori hon