Ewch i’r prif gynnwys

Cwrs newydd ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau dogfen

7 Chwefror 2019

Llun o’r cynhyrchydd ffilmiau dogfen Dr Janet Harris (chwith) yn Irac yn 2003.
Llun o’r cynhyrchydd ffilmiau dogfen Dr Janet Harris (chwith) yn Irac yn 2003.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi lansio cwrs ffilmiau dogfen ymarferol ar gyfer darpar wneuthurwyr ffilmiau.

Bydd MA Rhaglenni Dogfen Ddigidol yn darparu graddedigion gyda’r sgiliau i integreiddio’r theori a chynhyrchu ymarferol dogfennol i droi eu syniadau i ffilmiau arloesol.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r rhaglen ddogfen wedi profi i fod yn ffurf lwyddiannus sy’n esblygu gyda galw cynyddol o wasanaethau ffrydio, sefydliadau newyddion ar-lein a’r diwydiant ffilm.

Y maes mwyaf cyffrous yn y cyfryngau modern

Bydd cyn-gynhyrchydd rhaglenni ddogfen BBC, Dr Janet Harris, yn arwain y cwrs yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant. Buodd yn gwneud rhaglenni dogfen yn Irac, ac yn y DU ar amrywiaeth o bynciau, yn amrywio o ryfeloedd i ddysgu hedfan.  Bydd ei gyrfa helaeth gyda’r BBC ac fel Cyfarwyddwr/Cynhyrchydd llawrydd yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu haddysgu i wneud ffilmiau ymarferol yn y byd go iawn.

Dywedodd Dr Harris: “Mae'r farchnad rhaglenni dogfen ar-lein wedi cynyddu’n aruthrol gyda’r cyfryngau traddodiadol yn genedlaethol fel Financial Times, The Economist, The Guardian ac yn rhyngwladol fel New York Times, Al Jazeera a Der Spiegel. Mae’r farchnad yn Tsieina hefyd wedi cynyddu’n aruthrol.

“Mae rhaglenni dogfen wedi canfod llwyddiant ysgubol gyda llwyfannau newydd i’r cyfryngau megis Amazon Prime gyda’u cyfresi dogfen All or Nothing: Manchester City, a hefyd Netflix gyda Making a Murderer.”

“Rwy’n credu mai dyma’r maes mwyaf creadigol, artistig a newyddiadurol gyffrous sydd yn y cyfryngau.” Mae rhagor o wybodaeth a dolenni i’r ceisiadau ar gael ar dudalen y cwrs MA Rhaglenni Dogfen Ddigidol.

Bydd y cwrs yn dechrau ym mis Medi, ac mae ceisiadau nawr ar agor. Gall ymgeiswyr gysylltu gyda Dr Harris yn uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth.

Rhannu’r stori hon