Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol ac awdurdod lleol yn cael effaith ar gyfleoedd yn y brifysgol

24 September 2015

Graduation

Ymchwil newydd yn dangos bod côd post yn effeithio ar gyfranogiadaddysg uwch

Mae gobeithion disgyblion ysgol yng Nghymru o fynd i brifysgol yn amrywio'n sylweddol yn ôl yr ysgol y maent yn ei mynychu ac awdurdod lleol yr ysgol honno, waeth beth fo'u cyrhaeddiad addysgol unigol, yn ôl ymchwil newydd gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw (24 Medi) gan y ganolfan, ar y cyd â Chyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y DU (ESRC) a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), yn dangos gwahaniaethau sylweddol rhwng ysgolion, o ran nifer y disgyblion sy'n ymgymryd ag addysg uwch.

Roedd disgyblion mewn ysgolion lle mae nifer uchel fel arfer yn symud ymlaen i addysg uwch, bron dair gwaith yn fwy tebygol o fynd i'r brifysgol, o'i gymharu â'r rheini mewn ysgolion â lefelau cymedrol o ymgymryd ag addysg uwch, waeth beth fo'u cyrhaeddiad addysgol, cefndir economaidd-gymdeithasol neu gefndir ethnig.

Yn yr un modd, roedd y rheini mewn ysgolion â'r cofnod isaf o symud ymlaen i addysg uwch, 42% yn llai tebygol o fynd i brifysgol na'u cyfoedion mewn ysgolion â lefel gymedrol o ymgymryd ag addysg uwch.

Er bod yr adroddiad yn dweud ei bod yn anodd canfod beth sy'n achosi'r gwahaniaethau amlwg hyn ym mha mor debygol mae disgyblion o fynd i brifysgol, mae'n pwysleisio pwysigrwydd y canfyddiad o ran tynnu sylw at rôl allweddol ysgolion wrth lunio patrymau mynediad i addysg uwch.

Dangosodd yr adroddiad hefyd bod yr un peth yn wir am y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd ambell i awdurdod lleol sydd â'r lefelau uchaf o anfanteision economaidd-gymdeithasol – gan gynnwys Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent – ymhlith y rhai lle'r oedd y bobl ifanc yn fwyaf tebygol o ymgymryd ag addysg uwch. Ym Merthyr Tudful, er enghraifft, mae dynion ifanc bron dair gwaith yn fwy tebygol o fynd i brifysgol na'r rheini yn yr awdurdod lleol arferol; ac mae menywod ifanc dros ddwywaith yn fwy tebygol.

Dangoswyd bod cefndir ethnig yn ffactor arwyddocaol iawn hefyd wrth bennu mynediad i addysg uwch. Roedd pobl ifanc o gefndir ethnig 'du a lleiafrif ethnig (BME)' ac o gefndir 'Gwyn Arall' yn llawer mwy tebygol o ymgymryd ag addysg uwch na'r grŵp 'Gwyn Prydeinig'.

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu fframwaith strategol cenedlaethol ar gyfer ehangu mynediad i addysg uwch, sy'n cynnwys pob sector o'r system addysg yng Nghymru, ac nid y prifysgolion yn unig. Yn ôl yr adroddiad, byddai'r fframwaith hwn yn ceisio mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau yn ymdrechion pobl ifanc i gael mynediad i addysg uwch, ac yn helpu i gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n parhau ar gyrsiau addysg uwch ac yn gwneud cynnydd yn eu cymwysterau.

Arweiniwyd yr astudiaeth gan yr Athro Gareth Rees a'r Athro Chris Taylor.

Dywedodd yr Athro Taylor:"Er gwaethaf rhai newidiadau cadarnhaol mewn degawdau diweddar yn y patrymau ymhlith rhai grwpiau o'r boblogaeth mewn addysg uwch, gyda chyfranogiad menywod, rhai grwpiau lleiafrifoedd ethnig, a phobl ag anableddau yn cynyddu'n sylweddol, mae anghydraddoldebau mawr o hyd yn lefelau cyfranogiad mewn addysg uwch.

"Mae mynediad teg i addysg uwch yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, ac mae'r gwaith ymchwil hwn yn cyfrannu negeseuon pwysig at y ddadl gyhoeddus ar y mater allweddol hwn. Mae'r neges i ysgolion yn glir - mae angen iddynt roi'r un sylw i gyrchfan y rheini sy'n gadael yr ysgol ag y maent yn ei roi i lefelau cyrhaeddiad.

"Yn bwysicach byth, mae'r canfyddiadau'n dangos yn glir bod yn rhaid ymgorffori'r agenda ehangu mynediad ym mhob cam o'r daith addysgol, er mwyn llywio patrymau mynediad i addysg uwch. Byddai ein hargymhelliad i sefydlu fframwaith strategol cenedlaethol ar gyfer ehangu mynediad, gan ymgorffori pob sector o'r system addysg yng Nghymru - nid dim ond prifysgolion - yn fuddiol yn hyn o beth."

Dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr HEFCW: "Bydd y darn pwysig hwn o waith ymchwil ar ddilyniant i addysg uwch yn dylanwadu ar ein polisïau ehangu mynediad dros y blynyddoedd nesaf. Rydym yn ddiolchgar i WISERD am roi i lunwyr polisi'r mewnwelediad pwysig hwn i effaith ysgolion yn hytrach na chefndir economaidd-gymdeithasol. Edrychwn ymlaen at weld prifysgolion a'u partneriaid yn parhau â'u gwaith ehangu mynediad gyda phobl o bob oed, gan sefydlu partneriaethau newydd a deinamig gydag ysgolion a cholegau."