Ewch i’r prif gynnwys

Arweinyddiaeth, Awdurdod a Chynrychiolaeth yng Nghymunedau Mwslimaidd Prydain

8 Ionawr 2019

Canolfan Astudio Islam yn y Deyrnas Unedig yn ymdrin â chwestiynau cyfoes allweddol mewn cynhadledd arbennig

Academyddion ac actifyddion yn dod ynghyd i archwilio materion arweinyddiaeth, awdurdod a chynrychiolaeth yng nghymunedau Mwslimaidd Prydain mewn digwyddiad undydd ym mhrifddinas Cymru.

Arweinyddiaeth, Awdurdod a Chynrychiolaeth yng Nghymunedau Mwslimaidd Prydain yw’r digwyddiad diweddaraf a drefnwyd gan Ganolfan Astudio Islam yn y Deyrnas Unedig, a drefnwyd ar y cyd â rhifyn arbennig o’r cyfnodolyn rhyngwladol Religions sy’n cael ei olygu ar y cyd gan Gyfarwyddwr y Ganolfan Yr Athro Sophie Gilliat-Ray a’r Ymchwilydd Cyswllt Dr Riyaz Timol.

Mae’r digwyddiad yn ymdrin ag amrywiaeth o gwestiynau hynod berthnasol, gan gynnwys:

  • Pwy sy’n codi llais dros Fwslimiaid Prydain?
  • Sut mae awdurdod yn cael ei gyfleu, ei greu a’i ymarfer yn oes y cyfryngau torfol a’r rhyngrwyd?
  • Pa ffactorau mewnol ac allanol sy’n dylanwadu ar strwythurau arweinyddiaeth a thueddiadau cynrychiolaeth Mwslimiaid Prydain sy’n byw mewn lleiafrif mewn cyd-destun cymdeithasol diwylliannol Gristnogaidd sy’n seciwlar i raddau helaeth.
  • O ble mae arweinwyr yn dod mewn traddodiad crefyddol wedi’i ddatganoli sydd heb hierarchaeth offeiriadol?
  • Sut mae disgwrs y llywodraeth a chynrychiolaethau’r cyfryngau yn effeithio ar ddeinameg arweinyddiaeth ac awdurdod yng nghymunedau Mwslimiaid Prydain?

Yn cyflwyno’r prif ddarlithoedd bydd Ataullah Siddiqui (Sefydliad Addysg Uwch Markfield) a Shaukat Warraich (Faith Associates).

I gloi’r gynhadledd ceir trafodaeth banel ar The Future Role of Imams in the UK dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslimiaid Cymru, Saleem Kidwai OBE. Ymhlith y cyfranogwyr bydd Rehana Sadiq, Shuruq Naguib, Atif Imtiaz, Mufti Abdur Rahman Mangera, Myriam Francois-Cerrah a’r Imam Qari Asim.

Dywedodd y cydlynydd Dr Riyaz Timol: Rydym wrth ein bodd bod y gynhadledd hon wedi ennyn cymaint o ddiddordeb cenedlaethol, ac mae nifer y crynodebau a gyflwynwyd wedi bod yn aruthrol.   Mae diddordeb ymarferwyr, actifyddion cymdeithas sifil ac imamau, ochr yn ochr ag academyddion, yn dangos bod ein dewis o themâu cynhadledd wedi taro’r nodyn cywir, gan danlinellu ymrwymiad y Ganolfan i ganolbwyntio ar brofiadau bywyd pob dydd Mwslimiaid ym Mhrydain a’r materion sydd bwysicaf iddyn nhw.”

Bydd Arweinyddiaeth, Awdurdod a Chynrychiolaeth yng Nghymunedau Mwslimaidd Prydain yn cael ei chynnal ddydd Llun 21 Ionawr 2019 yn Siambr y Cyngor yn y Brifysgol.  Mae modd cofrestru ymlaen llaw ar gyfer y gynhadledd tan 9 Ionawr (£30/£15 gostyngiadau).

Mae'r Ganolfan ar gyfer Astudio Islam yn y Deyrnas Unedig, a agorwyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2005, yn cynnal mentrau addysgol o safon sy'n cael effaith leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Bydd Cyfres boblogaidd y Ganolfan  o Seminarau Cyhoeddus Blynyddol yn cychwyn yn 2019 gyda Dr Anabel Inge ar The Making of a Salafi Muslim Woman: Paths to Conversion ar 6 Chwefror. Bydd yn dod i ben ar 3 Ebrill gyda’r gohebydd tramor arobryn, James Fergusson, yn trafod  Islam - Another British Religion? mewn partneriaeth ag Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr. Mae’r holl seminarau am ddim ac ar agor i’r cyhoedd, ac rydym ni’n argymell cadw lle ymlaen llaw

Rhannu’r stori hon