Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigwyr y Gyfraith a Chrefydd yn cael eu cynnwys mewn llawlyfr ymchwil newydd

7 Ionawr 2019

Mae dau academydd ac un o gynfyfyrwyr y Gyfraith o Gaerdydd wedi cael eu henwi'n ddiweddar mewn llawlyfr newydd ar gyfer y Gyfraith a Chrefydd.

Mae Cyfarwyddwr rhaglen LLM Cyfraith Eglwysig yr Ysgol, a Chyfarwyddwr Canolfan y Gyfraith a Chrefydd, yr Athro Norman Doe, wedi cael ei ddyfynnu yn Research Handbook on Law and Religion eleni, sydd wedi'i olygu gan yr Athro Rex Ahdar, Prifysgol Otago, Seland Newydd (Edward Elgar Publishing, 2018). Mae'r Athro Doe wedi cael ei gynnwys yn y llawlyfr yn y rhestr o'r deg ysgolhaig crefydd mwyaf blaenllaw ledled y byd – yn safle 10 – ochr yn ochr ag ysgolheigion eraill o Stanford, Emory (Atlanta), San Diego, Columbia, Virginia, Durham, Alabama, Bringham Young, a Texas.

Yn ogystal â'r acolâd hwn, mae'r Athro Russell Sandberg a'r cynfyfyriwr Mark Hill QC wedi cael eu cynnwys yn yr adran 'crybwylliad anrhydeddus'

Mae'r llawlyfr yn cynnwys safbwynt rhyngddisgyblaethol, rhyngwladol ac athronyddol sy'n archwilio materion cyfreithiol presennol a hirsefydlog sy'n ymwneud â'r wladwriaeth fodern a sut mae'n rhyngweithio â chymunedau ac unigolion crefyddol.

Wrth siarad am gael ei gynnwys yn y llawlyfr, dywedodd yr Athro Doe "Mae'r ffaith bod dau aelod o'n staff presennol wedi cael eu cynnwys yn llyfr Research Handbook on Law and Religion yn cadarnhau ein safle fel canolfan blaenllaw ar gyfer ysgolheictod y Gyfraith a Chrefydd nid yn unig yn y DU ond ar lefel fyd-eang. Rydw i wrth fy modd i gael fy rhestru ochr yn ochr â fy nghydweithwyr uchel eu parch ledled y byd.

At hynny, mae un o'n cynfyfyrwyr Mark Hill QC hefyd yn cael ei ddyfynnu yn y llawlyfr, sy'n dangos beth mae ein myfyrwyr yn gallu ei gyflawni ar ôl gadael y Brifysgol."

Cafodd llyfr diweddaraf yr Athro Doe Comparative Religious Law: Judaism, Christianity, Islam ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Caergrawnt ym mis Hydref 2018.

Cewch ragor o wybodaeth am lyfr Research Handbook on Law and Religion ar wefan Edward Elgar Publishing.

Rhannu’r stori hon