Ewch i’r prif gynnwys

Yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn cydnabod gwaith allgymorth myfyrwyr

1 Mehefin 2018

Students receiving prizes at Chaos Ball.

Unwaith eto mae'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth wedi cydnabod gweithgaredd allgymorth ac ymgysylltu rhagorol ei myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig mewn seremoni wobrwyo yn y Ddawns Chaos flynyddol i Fyfyrwyr.

Enwebwyd myfyrwyr gan aelodau o staff ar draws yr Ysgol gyda phwyllgor allgymorth yr Ysgol yn pleidleisio.

Dyfarnwyd y gwobrau israddedig ac uwchraddedig am gyfraniad allgymorth rhagorol 2018 i Tilly Evans ac Amber Hornsby.

Mae Amber Hornsby wedi ymwneud â sawl agwedd ar waith allgymorth Ffiseg a Seryddiaeth, yn ystod ei chyfnod yma fel myfyriwr ffiseg israddedig a bellach fel myfyriwr ôl-raddedig. Mae wedi siarad gyda myfyrwyr a'r cyhoedd mewn gweithdai a digwyddiadau eraill, ac wedi cydlynu'r cyfraniadau ffiseg i Peint o Wyddoniaeth Caerdydd 2018, a gynhaliwyd ym mis Mai. Yn ei rôl o fewn y Grŵp Offeryniaeth Seryddiaeth mae Amber yn gweithio'n galed iawn i baratoi'r Lab Datgelu ar gyfer ymweliadau gan ymwelwyr allanol - ymdrech nad oes neb yn sylwi arno'n aml, ond sydd eto i gyd yn cael ei werthfawrogi. Mae hefyd yn ysgrifennu ar amrywiol bynciau ymchwil seryddiaeth ar lefel gyhoeddus, i wefan Astrobites a chylchgrawn y Society for Popular Astronomy. Am y rhesymau hyn, dyfernir Gwobr Josephson 2018 am gyfraniad rhagorol i waith allgymorth gan fyfyriwr ôl-raddedig i Amber Hornsby.

Mae Tilly Evans wedi rhoi mwy o'i hamser i weithgareddau recriwtio graddedigion nag unrhyw fyfyriwr arall. Mae'n hynod o frwdfrydig wrth siarad gydag ymgeiswyr a'u rhieni, gan ddangos yn glir ei hangerdd dros ffiseg. Mewn gweithgareddau eraill, mae Tilly wedi cydweithio'n agos gyda myfyrwyr ysgol ar amrywiol weithgareddau, ac wedi sicrhau bod Caerdydd yn lle croesawgar a chyfeillgar iddyn nhw ymweld ag e. Am y rhesymau hyn, dyfernir Gwobr Marconi 2018 am gyfraniad rhagorol i waith allgymorth gan fyfyriwr israddedig i Tilly Evans.

Mae gwaith caled a llwyddiannau llawer o'n myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sydd wedi cyfrannu cymorth hanfodol i'n gwaith allgymorth, diwrnodau agored a gwaith llysgennad cyffredinol yn yr Ysgol, hefyd wedi'i gydnabod.

Aeth Gwobr Georges Lemaitre am Gyfraniad i Ymgysylltu â’r Gymuned i:

Daniel Cross, Eleanor Edbrooke, Eleanor Hamilton, Sarah Jaffa, Lydia Jarvis, Luke Jones, Jess Mabin, Mihaela Raischi, Taylor Short, Jess Werrell, Nikki Zabel.

Derbyniodd y myfyrwyr canlynol wobr Vera Rubin am Gyfraniad Cyson i Ymgysylltu â’r Gymuned:

Adam Ali, Ryan Beckerleg, Kieran Billingham, Lille Borresen, Holly Davies, Calum Dear, Ben Flatman, Ellen Hall, Thomas Hyett, Matt Jordan, Alex Kirby, Alistair Muir, Amanda Seedhouse, Suzanne Thomas, Tom Williams.

Aeth Gwobr CV Raman am Gyfraniad Sylweddol i Ymgysylltu â’r Gymuned i:

Kamran Bogue, Joycelyn Longdon, Cameron Manning, Sam Small, Connor Smith, Niki Tsvetanov, Joseph Ward.

Aeth Gwobr Marie Curie am Gyfraniad Rhagorol i Ymgysylltu â’r Gymuned i:

Robert Daley, Polly Gill, Sebastian Gould-Williams, Nerys Griffith, Julian Herbst, Benedict Hofmann, Nick Koukoufilippas, Phoebe Lloyd-Evans, Alex Loader, Jeni Millard, Cameron Mills, Eve North, Chris Rees-Jacobs, Jaspa Stritt, Barbara Wawrzynek, Noor Zaidi.

Dywedodd y Darlithydd Gwyddoniaeth Ogden a Chymrawd Ymgysylltu â'r Cyhoedd, Dr Chris North: "Rydym ni'n wirioneddol werthfawrogi'r rôl mae ein myfyrwyr yn ei chwarae fel llysgenhadon ar ran yr Ysgol, y Brifysgol a ffiseg yn gyffredinol, ac rydym wrth ein bodd yn cydnabod yr ymdrech maen nhw wedi'i wneud."

Yn ogystal â'r gwobrau Allgymorth, bu'r myfyrwyr yn pleidleisio am dair gwobr i staff. Derbyniodd yr Athro Mike Edmunds y wobr am y Darlithydd Gorau, Dr Annabel Cartwright wobr y Tiwtor Gorau a Mr David Brown y wobr am yr aelod Staff Cymorth Myfyrwyr Gorau.

Rhannu’r stori hon